Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgrifiadau

disgrifiadau

Symons oedd y mwyaf chwyrn ei gondemniad ar y meistri haearn, gan roi disgrifiadau crafog o amodau gwael a ddaeth o orlenwi'r ardaloedd hynny â phobl, a'r diffyg cyfleusterau byw i'r gweithwyr yn sgil hynny:

Daeth ei disgrifiadau i ben, a thawelodd hithau.

Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones.

Lluniwch lyfr adar i gynnwys casgliadau o luniau, plu, disgrifiadau manwl a gwybodaeth am arferion yn ogystal â manylion am arbrofion.

Mae'r disgrifiadau yn canmol y tai i'r entrychion ac yn pwysleisio pob pwynt da ynglŷn â nhw.

Yr oedd disgrifiadau daearyddol yn rhan o batrwm cyfan hanes, ynghyd ag astudio enwau, hen olion, a hynafiaethau o bob math.

Cyfeddyf i Blaton alltudio'r beirdd o'i wladwriaeth oherwydd 'anfoesoldeb eu disgrifiadau o'r duwiau', ond am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, doedd dim culni ar ei chyfyl; eithriad oedd cael moesolwr fel Siôn Cent.

Ceir disgrifiadau manwl yn adroddiadau swyddogol y cyfnod, a hefyd mewn llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, megis llyfr ardderchog Robert Hughes the fatal shore, ac o diddordeb arbennig i ni'r Cymry astudiaeth fanwl Deirdre Beddoe o hynt a helynt y carcharorion benywaidd o Gymru, Welsh Convict Women, a llyfr Dr Lewis Lloyd, Australians from Wales.

Ond cymerwch gysur, canys pe buasai'r cwrs hwn yn agored ichi buasech felly yn cael eich amddifadu o ddarllen llenyddiaeth ddychymyg wychaf y byd disgrifiadau estate agents o'r ffermydd sydd ganddynt i'w gwerthu.

'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru.

Ymysg ei disgrifiadau synhwyrus ceir sawl cyfeiriad at adar, ac mae gwylio adar yn ddiddordeb gan fwy nag un o'i chymeriadau.

Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .