Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgwyliadau

disgwyliadau

Y mae'r disgwyliadau yn uchel ar gyfer ei noson olaf hi allan gyda'r gennod.

Bydd y plentyn yn sylweddoli hefyd, gydag amser, bod yr hyn sy'n gymeradwy yn newid fel y bydd yn aeddfedu ac yn datblygu fel defnyddiwr iaith wrth i'r rhai sy'n ymwneud ag ef deilwrio eu disgwyliadau yn ôl yr hyn a wyddant am natur eu hyfedrwydd.

Dyna mae'n debyg fydd disgwyliadau Aelodau'r Cynulliad hefyd.

ansawdd yr addysgu - gan gynnwys maint a phriodoldeb disgwyliadau'r athrawon am y disgyblion a'r amrediad o strategaethau addysgu a ddefnyddir ganddynt i gyflwyno ffeithiau a gwybodaeth, i roi ymarfer mewn sgiliau ac i sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth.

Y Cyflawniad Ysgrythurol: Byddai'r dehongliad o farw Crist fel aberth dros bechod yn annealladwy onibai am aferion a disgwyliadau Israel yn yr Hen Destament.

Effeithiodd y dull hwn o feddwl yn ei dro ar ei gobeithion Mesianaidd, a'r pennaf o'i disgwyliadau oedd gweld adfer brenhiniaeth Dafydd.

Yn gynnar yn y flwyddyn newydd anfonwyd llythyr i bob Awdurdod Unedol yng Nghymru yn datgan disgwyliadau'r Gymdeithas o'u polisïau iaith.

Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod wrth ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd yw: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg, am gyfnod helaeth o bob dydd o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol, gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Er mwyn cyrraedd y nod hwn rhaid gofalu nad yw'r label ail iaith yn gostwng disgwyliadau.

Dwi ddim yn credu y dylai pobol godi'u disgwyliadau," meddai.

A derbyn mai'r asiant cynhyrchu, yn y pendraw, a ddylai gael penderfynu rhwng cyflogi neu gomisiynu er mwyn cyflawni gwaith, y mae angen rhai canllawiau pellach i egluro'r disgwyliadau o safbwynt cyflogi, yn arbennig yn y tymor byr wrth symud drosodd at ddull newydd o ariannu projectau.

Roedd disgwyliadau mawr am y gêm hon ac fe gawson ni gêm oedd yn adlewyrchiad perffaith o'r gystadleuaeth, meddai cyn-gapten a golwr Cymru, Dai Davies.

Yn y blynyddoedd yn syth wedi'r rhyfel mae disgwyliadau pobl yn uchel yng Nghymru.

Gan mai natur yr unigolyn a benodir i gyflawni project yw'r prif ffactor mewn llwyddiant y math yma o broject, y mae angen cytuno ar ganllawiau ar gyfer penodi'r personau mwyaf cymwys er sicrhau cysondeb a disgwyliadau cyffredinol ymysg y canolfannau.

Y mae disgwyliadau a phryderon pobl sir Fôn wedi newid yn enbyd tros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Ar ben hynny, mae ambell i aelod yn grwgnach fod y disgwyliadau ymarfer yn ormod i'w ofyn gan rai sydd ond yn gantorion amatur.