Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgwyliai

disgwyliai

Yn ofer y disgwyliai'r un Dirprwywr i'r aelwyd honno wadu'r famiaith:

Disgwyliai Jean Marcel glywed yr ergyd unrhyw eiliad ac anogodd y plant i ganu'n uwch.

Prynodd Carol becyn o fferins bob un i'r bechgyn eu bwyta tra disgwyliai hi wrth y ffôn, a safodd yn amyneddgar â'r bechgyn o bobtu iddi, gan barhau i dicio eitemau i ffwrdd oddi ar y rhestr neges oedd ganddi yn ei meddwl.

Abercyrnog fu ei gartref erioed, yno cafodd ei eni, yno disgwyliai farw.

Disgwyliai i'w holl esgobion ei osod mewn grym, yn enwedig yn erbyn y rhai a ledaenai ac a werthai lyfrau printiedig o'r fath.