Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disgynnodd

disgynnodd

Disgynnodd ei lygaid brown mawr arnaf A gwenodd.

Disgynnodd yr ordd hefyd ar y ddaear wrth ei ymyl gan agor ffos ddofn fel archoll yn y pridd islaw.

Nid oedd wedi rhagweld faint o greigiau fyddai'n disgyn: disgynnodd un ohonyn nhw ar ei fraich, gan rwygo ei lawes.

Gwelai'r nerthoedd a adawodd eu hôl ar ei ysbryd, y bobl y bu'n byw yn eu plith ac y disgynnodd ohonynt, a'r wlad lle y bu'n chwarae , yn chwerthin, yn chwysu, yn gweithio a gweddi%o.

Chwythodd a thuchanodd y morwyr, ac oherwydd ei bod hi'n graddol dywyllu roedd traed neu freichiau yn mynnu bachu bob gafael mewn gwreiddiau coed neu ganghennau, a disgynnodd sawl un ar ei hyd.

Disgynnodd Villani ar ei liniau i'r pridd sych a dododd ei dalcen ar ymyl y ffynnon.

Teimlwn fy ysbryd yn esgyn ac yn esgyn nes yr oeddwn "yn nofio mewn cariad a hedd." Dair wythnos wedi hyn, daeth profiad cyffrous iawn imi Disgynnodd colomen wen eto ar sil fy ffenestr.

Disgynnodd ei berwig grychiog ddu fel mantell am ei ysgwyddau.

Disgynnodd Douglas yn ddiogel yn Ffrainc.

'Roedd Charlie'n llofrudd ac mewn ffrwgwd gyda Mrs Mac ar do capel lleol disgynnodd Charlie i'w farwolaeth.

Disgynnodd y peilot gyda'i barasiwt.

Cofiwch y dderwen a'r brwyn." Disgynnodd yr hen ŵr o ben y boncyff a cherdded yn araf i fyny'r llethr tua'i gartref.

Disgynnodd ar ei phennau gliniau yn y fan a'r lle ac meddai, "Arglwydd, dydw i erioed wedi haeddu'r enw 'Mam'.

Drwy ddiwedd Chwefror, Mawrth, Ebrill a Mai disgynnodd drwy Ddyffryn Elwy.

Yr oedd y bos wedi meddwl ennill hefo'r bwmpen honno yn y sioe." Disgynnodd y gansen yn galed chwech o weithiau ar law Douglas.

Un bore Llun yn ystod yr Ail Ryfel Byd disgynnodd awyren fechan ar gae chwarae'r ysgol.

Yna, disgynnodd distawrwydd a chiledrychodd Carwyn yn araf o gwmpas y trwyn o graig.

Neidiodd Ernest, gan ddisgyn yn daclus i'r man lle dylasai, ac yn y funud yr oedd ei gydymaith wedi gwneud yr un peth, a disgynnodd y ddau o'u cyfrwyau i helpu Harri, druan, a oedd wedi ei syfrdanu, ac yn gweld pob man yn troi o'i gwmpas.

Disgynnodd Mr Parker, a oedd yn chwe throedfedd tair modfedd o daldra ac yn pwyso pymtheg stôn ar ben pentwr o wŷr, gwragedd a phlant.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

O dan y cymylau tywyll a'r niwl disgynnodd amdo'r nos yn gynt nag arfer.

Unwaith y disgynnodd eu hawyren dringodd y ddau ddyn i mewn iddi drachefn.

Disgynnodd ar bwys golgeidwad Cyprus, Andreas Charitou.

Fel plant y rhan fwyaf o deuluoedd tlawd yn y cyfnod hwn bu rhaid ­ Pamela fynd allan i weithio pan oedd yn ifanc iawn ond disgynnodd i gwmni drwg ac arweiniodd ei chydweithwyr hi'n fuan ar hyd eu ffyrdd nhw.

ni allai 'r un ohonynt ddweud yn union beth a ddigwyddodd, ond yn sydyn gwelsant ffred yn troi wysg ei ochr a phan oeddynt ar fin gweiddi rhybudd disgynnodd ar ei gefn i 'r afon yr ochr bellaf i 'r gangen fawr ac o 'u golwg.

Disgynnodd y nifer o donsilectomiau'n sydyn ac yn ddramatig.

Gydag un ruad llamodd y Mercedes o'i gaethiwed a disgynnodd Elis Robaitsh yn glwt i'r pwll llaid.

Priododd yntau; a disgynnodd ar unwaith yng nghanol trafferthion hollol newydd iddo - amaethu tyddyn mynyddig, digon drud, a magu tyaid o blant, ymwneud â masnach ansefydlog a phorthmyn celwyddog.

Gwgodd ei mab ond disgynnodd oddi ar y ceffyl.

"O ble'r ydych yn dod?" Pan atebais, "O'r Rhyl", disgynnodd cwmwl tosturiol tros eu hwynebau.

'Nawr, nawr, paid â gadael i'r gwir dy boeni di.' Cododd Dilwyn un o'i ddyrnau ond disgynnodd llaw Ifan yn drwm ar ei fraich a'i rwystro.

Disgynnodd ei dwylo yn llipa wrth ei hochr.

Roeddynt yn fychain ac wedi eu hadeiladu'n wael - disgynnodd rhai!