Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

distaw

distaw

O fedru cymuno ag Ynys Afallon, yr ysgogiad ysbrydol goruwchnaturiol hwn sydd tu hwnt i ddelwedd, y geill pob Bedwyr trist a distaw yn hyn o fyd wynebu'r drin.

Ond go brin y byddent wedi bod mor dawel eu meddyliau pe gwyddent bod gwyliwr distaw yng nghysgod y ddraenen ddu, heb fod ymhell o'r llidiart ach, wedi eu gweld ac wedi clywed llawer o'r hyn a ddywedent.

A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.

"Faint o ffordd eto?" gofynnodd Iona mewn llais distaw.

Clywodd y llys fod yr ardal yn leoliad gwledig distaw iawn" heb fawr o drafnidiaeth a dim diwydiant.

Daeth dau ddeigryn distaw i ddau lygaid y Parchedig Brifathro Harris Hughes.

Pan ddeffrodd Jean Marcel y bore canlynol ac edrych allan drwy ffenestr gul ei stafell, gwelodd fyd distaw, gwyn a'r eira mân yn dal i syrthio.