Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diwallu

diwallu

Yn y gorffennol yn unig y mae rhinwedd iddi: llwm a threuliedig yw'r presennol a brad yw 'edrych ymlaen.' Diddyma ei phersonoliaeth unigol er diwallu gofynion ei chydwybod deuluaidd.

Croesewir y cynnydd yn y nawdd a ddaw o du'r llywodraeth, ond y mae ystadegau yn dangos fod yr anghenion ymhell o'u diwallu.

Pwysleisia'r ddogfen le rhieni fel partneriaid yn y broses o addysgu a'u hawl i gael addysg sy'n diwallu anghenion eu plant.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC. Yn fyr, maent yn cynnwys: sefydlu a monitror farn gyhoeddus am raglenni a gwasanaethau drwy ymchwil cynulleidfa; cynghorir BBC ar sut mae'r amcanion yn adlewyrchu buddiannau Cymru; cynorthwyor Gorfforaeth i lunio amcanion, eu monitro a helpur gwaith o ddosrannu cyllid ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau o fewn cyllideb gyffredinol Cymru; cyflwyno barn i'r BBC os oes newid arwyddocaol yn sail adnoddur Gorfforaeth; gwneud yn siwr fod unrhyw sylwadau, cynigion a chwynion a wneir gan gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu trin yn addas; adolygu a mynegi barn am raglenni â gynhyrchir gan BBC Cymru fel rhan o'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol; gwneud yn siwr fod anghenion talwyr y ffi drwydded yn cael eu diwallu yn gyffredinol; gwneud sylwadau ar y cyd-destun cystadleuol a gwleidyddol yng Nghymru i'r graddau y maen effeithio ar raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.

Gan mai yn nhrymder nos, gan amlaf, yr â allan i bori bydd yn traflyncu ei bwyd yn fras er mwyn diwallu'r angen yn gyflym.

sicrhau fod y drefn gynllunio yn gwasanaethu'r gymuned leol, bod tai newydd yn diwallu anghenion lleol, ac na roddir caniatâd i gynlluniau a fyddai yn niweidiol i'r gymuned yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd.

Hyd y gellir fe'u llunir mewn ymgynghoriad ag athrawon ac ymgynghorwyr addysg fel eu bod yn diwallu anghenion penodol i ymateb i anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Y dasg gyntaf, felly, oedd mynd ati i ddisgrifio anghenion y dysgwr ei hun, cyn dethol yr elfennau ieithyddol y byddai eu hangen i'w diwallu.

Ein prif uchelgais yn ddiamau fydd darparu rhaglenni syn diwallu gofynion ein cynulleidfa ac yn rhoi gwerth am arian iddyn nhw, talwyr y drwydded.

Ein prif uchelgais yn ddiamau fydd darparu rhaglenni sy'n diwallu gofynion ein cynulleidfa ac yn rhoi gwerth am arian iddyn nhw, talwyr y drwydded.

Yn hytrach, erfyna yn ddireidus am ei chymorth i'w diwallu.

Yn ol ei sairter, mae gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Clwyd yn bodoli er mwyn diwallu anghenion dinasyddion Clwyd o safbwynt diwylliant, gwybodaeth, addysg a hamdden.

Hoffent hefyd ddiolch i ferched y gegin am eu diwallu a chawl, te a brechdannau, drwy gydol y dydd, ac hefyd am drefnu lluniaeth ar gyfer y cyhoedd.