Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diwydiannau

diwydiannau

Mae ein hiaith mewn enbydrwydd, ein tir o dan warchae gan estroniaid, ein diwydiannau'n adfeilion a'n plant ar wasgar ym mhedwar ban y byd.

Ni châi diwydiannau ysgafn a glanach ddatblygu yma rhag ofn y denent ei gweithwyr oddi wrth y diwydiannau glo, dur, haearn, alcam ac ati.

(e) Ar gyfer lladd-dŷ a diwydiannau a busnesion gyda chysylltiadau amaethyddol a/ neu bwyd ac anghenion lleoli arbennig.

Ond, er bod traddodiad diwydiannau trymion De Cymru yn cael sylw mawr, anwybyddir adeiladwyr llongau a llongwyr y Gogledd i raddau helaeth, sef y bobl a sicrhaodd gyfoeth i'r ardal ac a alluogodd i lawer o gapeli, ysgolion a cholegau'r rhanbarth gael eu hadeiladu.

Fel yn achos pobloedd o bob rhan o Ewrop, bu America yn dynfa anodd ei gwrthsefyll i'r Cymry yn ystod y rhan gyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig yn sgil datblygiad y diwydiannau dur a glo, a chwareli llechi ym Mhensylfania.

Bydd y rhain yn gyfrifol am wasanaethau lles, addysg, masnach, tai, cynllunio, yr heddlu, amaethu a physgota a datblygu diwydiannau bychain.

Cynhaliwyd yr arddangosfa ynghyd â chyfarfod Plaid Cymru yn y dref a'r bwriad oedd dangos y posibiliadau o ddefnyddio safleoedd diffaith fel hwn i greu canolfannau celf a meithrinfeydd diwydiannau celf.'

Mae ceir wedi'u gwahardd o'r canol erbyn hyn gan adfer rhywfaint o awyrgylch canol oesol y dre farchnad - cyn teyrnasiad y brenin glo a dyfodiad diwydiannau alcam, olew a dur i waelod Cwm Nedd.

Gellir cymharu'r ffyniant yn y diwydiant llongau yng Ngogledd Cymru yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â'r twf yn y diwydiannau glo, haearn a dur yn Ne Cymru.

Llosgid darnau o goed megis ffawydd, gwern, helyg a derw yn araf ac yn fud mewn pyllau mawr caeedig dros amser hir yn yr haf i gynhyrchu tanwydd ar gyfer y diwydiant haearn a diwydiannau eraill.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Mae trigolion Amlwch ym Môn yn gwybod ei bod yn bosibl tynnu cemegau allan o'r môr (mae ffatri cynhyrchu bromin yno) a hefyd mae yn bosibl defnyddio tipyn o ynni'r môr er mwyn creu trydan i'n diwydiannau a'n cartrefi.

Oherwydd mae'r ddelwedd hon yn siard cyfrolau am gyflwr presennol un o hen gymunedau'r glo drannoeth dyddiau llewyrch un o'r diwydiannau trymion cynhaliol.

Gwneuthurwr ceir Diwydiannau Trydyddol sydd yn rhoi gwasanaeth i bobl neu'r gymuned, e.e.

Y bwriad yw datblygu potensial y diwydiannau hyn î'r eithaf, yn ddiwylliannol ac economaidd, a hybu talentau Cymru trwy'r byd.

Yn ail, mae cynhyrchaeth llafur yn debyg o fod yn uchel yn y diwydiannau cynhyrchu am wahanol resymau: yn un peth maent yn defnyddio llawer o gyfalaf gogyfer â phob person (maent yn fwy cyfalafddwys nag yw'r gwasanaethau), ac mae eu cymhareb allgyrch cyfalaf yn tueddu i godi gyda'r blynyddoedd.

Proffit ar y diwydiant cythreulig 'arfau' a pryd y gwelwn broffit ar y diwydiant Amaeth, sydd yn ol un aelod seneddol Toriaidd, Richard Body, o Sir Norfolk y 'Laime Duck' mwyaf o holl ddiwydiannau ein gwlad.' Nid yw felly yn anodd dod i'r penderfyniad fod y Diwydiant Arfau, Y Lluoedd Arfog, ac Amaethyddiaeth yn diwydiannau y gellir cael elw gwleidyddol Toriaidd ohonynt, ac ar yr un pryd wrth faeddu digon ar Undebaeth a newid rheolau a chyfreithiau'r wlad y mae'n hawdd dylanwadu ar y 'Floating Vote'.

A'r olaf o'r ystyriaethau ydyw'r lleihad parhaol ym maint ein diwydiannau cynhyrchu nwyddau gorffenedig - hynny yw, ein sylfaen diwydiannol.

Roedd rheswm da paham yr oedd comisiynau brenhinol a chomisiynau ymchwil yn ymddangos yn gymaint o ddiwydiant â'r diwydiannau a oedd yn wrthrych eu hymchwiliadau.

Efallai mai olion (neu'n wir, ddiffyg olion) y diwydiannau yw'r rheswm dros hyn.

Amcangyfrifir mai'r diwydiant Technoleg Wybodaeth fydd defnyddiwr trymaf ynni erbyn troad y ganrif, gan oddiweddyd y diwydiannau traddodiadol drwm a gysylltir yn arferol â defnydd uchel ar ynni.

Byddai cais Phoenix yn well i Gymru er mwyn cadw'r swyddi yn y diwydiannau cydrannau yma.

Diwydiannau Cynradd yw rheiny sydd yn cynhyrchu deunyddiau crai o'r tir neu'r môr, e.e.

Diwydiannau Eilradd yw'r rheiny sy'n cynhyrchu pethau o'r deunyddiau crai, neu'n eu prosesu,e.e., gwneud dur, ceir neu gynhyrchu bwyd.

Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.

Mae angen i weithwyr gael cyfrifoldeb dros eu diwydiannau.

Y diwydiannau gwybodaeth a chyfathrebu sy'n tyfu gyflymaf ac mae'n hanfodol bod Cymru ar flaen y gad gyda'r datblygiadau hyn.

Hefyd mae cyflogau merched lawer yn is na chyflogau dynion yng Ngwynedd, Cymru a Phrydain, gan adlewyrchu'r ganran uchel o ferched mewn gwaith rhan-amser a'r diwydiannau gwasanaeth sy'n cynnig cyflogau is.

Y mae deall sut y mae llong â'i phen wedi ei blannu yng ngwely'r môr yn gallu gwrthsefyll grymusterau organig a mecanyddol yn dal i fod yn gryn ddirgelwch ond yn ddirgelwch, pe'i datrysir, sy'n rhwym o ddweud cymaint am yr hyn a ddigwydd i beirianwaith tanfor diwydiannau y dyfodol ag am draddodiadau morwrol y gorffennol.

Ond dywedodd Arglwydd Brecon ei hun ei bod hi'n drueni na wnâi'r ardaloedd Cymraeg fwy i gychwyn diwydiannau eu hunain yn hytrach na galw byth a beunydd am gymorth o'r tu allan.

Eto mae'n deg i mi gyfeirio at y ddadl fod pob un o'r wyth sydd wedi dal y swydd o Ysgrifennydd Cymru wedi llwyddo i sicrhau i Gymru siar o'r gwariant cyhoeddus ac hefyd o'r diwydiannau newydd sy'n uwch na'r hyn a gafwyd gan ranbarthau Lloegr.