Yr Almaen hefyd oedd canolfan brysuraf a bywiocaf argraffu Beiblau yn y famiaith a llyfrau erill yn mynegi dysgeidiaethau'r Diwygwyr.
Yr oeddent i gyd yn Brotestaniaid eiddgar ac yn bybyr eu hymlyniad wrth y math diwinyddiaeth a gysylltir ag enwau Zwingli a Bullinger, diwygwyr Zurich, a John Calfin yn Genefa.
Ystyr hyn i gyd oedd ei fod yn brotestant pur radical ac yn gogwyddo, y mae'n amlwg, at farn diwygwyr y Swistir, Zwingli a Chalfin, mewn materion ynglyn â gwisgoedd eglwysig a defodau.
Ac nid llai hyddysg mohono yng ngweithiau'r Diwygwyr Protestannaidd.
Ond y mae wedi plethu â'r weledigaeth hon, yr hyn a ddysgai'r Diwygwyr Protestannaidd am ein hangen am gyfiawnder.
Cadwai ddarlun yn ei stydi o'r gofeb fawreddog i goffa/ u'r Diwygwyr yng Ngenefa a mynegodd y farn mewn llythyr y byddai'n rheitiach peth i bobl ifainc Cymru fynd i weld y gofeb honno ar eu gwyliau haf yn hytrach na gwagsymera ar draethau Sbaen - "lle nad oes dim byd ond tywod".
Yn ystod y ddwy flynedd nesaf dwysau a wnaeth gwrthwynebiad y Frenhines tuag at y Diwygwyr a phenderfynodd Davies ddianc am loches fel alltud ar gyfandir Ewrop.
Yn aml, dydi llwybr y diwygwyr ddim yn un hawdd wrth iddyn nhw gael eu cyhuddo o fod yn feddal, gwangalon a rhy oddefol o droseddwyr.
Yr Ysbryd, fe gredai'r Diwygwyr, sy'n cymhwyso gwaith achubol Crist at bersonoliaeth dyn.