Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diymhongar

diymhongar

Nid gweslyfr mewn methodoleg ydyw, yn ôl yr awdur, ond cyflwyniad i astudio'r Gymraeg, gosodiad diymhongar iawn, a dweud y gwir, gan fod y bennod olaf, o leiaf yn canolbwyntio ar ddisgrifio methodoleg un ysgol ieithyddol, yr Ysgol Systemig, y gellir ei dilyn ar gyfer gwneud disgrifiad syncronig o'r Gymraeg, ac y mae'r bennod o'i blaen yn olrhain y datblygiadau yn nulliau ymchwilwyr i'r tafodieithoedd.

yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.' Rhaid cymharu'r dull awdurdodol, diymhongar hwn, sydd yn nodweddiadol o Hiraethog wrth iddo drin digwyddiadau sydd heb berthynas â'r rhai canolog, â'r dull anuniongyrchol a ddefnyddia i drin mater y briodas:

Ar ddydd o brysur bwyso, pe na bai'r gohebydd cyson wrth law, ni fyddai dihangfa hyd yn oed i'r mwyaf diymhongar rhag ymddangos ar y sgrîn.

Neil Jenkins a Peter Rogers Neil Jenkins, y sgoriwr pwyntiau heb ei ail, oedd testun Working Class Hero, teyrnged haeddiannol i'r arwr rygbi diymhongar hwn.

Lle'r oedd Emli'n fyr ac yn dew, yr oedd hon yn dal ac yn denau; os oedd dwyfron Wmli'n llawn ac yn amlwg, prin y gwyddech chi bod gan y llall fronnau o gwbl; lle'r oedd Emli'n bendant ei cherddediad a phenderfynol yr olwg arni, edrychai'r llall yn swil a diymhongar a di-ddweud.

Cloriannu'r gyllideb; fedrwch chi ddim gwneud pethau crand efo ceiniog a dimai, mae'n rhaid i chi wneud pethau diymhongar - ond da.