Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dj

dj

Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.

Gyda DJ Dafis yn parhau i arbrofi, felly, heb sôn am gerddoriaeth drum ‘n' bass Dau Cefn a'u tebyg, mae'r sîn ddawns Gymraeg yn dechrau ehangu o'r diwedd.

Nod pennaf DJ Dafis ydi parhau i ddod â bywyd newydd i glasuron yr iaith Gymraeg a datblygu cerddoriaeth ddawns Cymru yn ogystal.

Yn y cyfarfod rhybuddiodd DJ Williams, Abergwaun, dan gyfarwyddyd JE yn ddiau: "Pe byddem ni ym Mhlaid Cymru, neu unrhyw blaid arall, yn gwneud y Ddeiseb yn fater plaid,-byddai'n ddinistr sicr i'r ddeiseb honno%.

Dadleuai DJ Davies, yn wir, fod yr ardaloedd Seisnig yn barotach i dderbyn neges y Blaid na'r ardaloedd Cymraeg, oblegid yr ymdeimlad o wacter a geid ynddynt trwy golli'r iaith, a bod ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg yn fagl ac yn rhwystr i'w datblygiad politicaidd i gyfeiriad cenedlaethol.

O'r tri siaradwr a wahoddwyd yno, ni fedrai Saunders Lewis fod yn bresennol, ni dderbyniodd Ben Bowen Thomas y gwahoddiad tan ar ôl y cyfarfod, ac felly dyna lle'r oedd DJ Williams, Abergwaun - yr unig siaradwr, ac er mor ddiymhongar ydoedd fe hoffai fedru brolio'n ddistaw mai ef fu'r siaradwr cyhoeddus cyntaf dros Blaid Cymru yn Ne a Gogledd Cymru.

gan DJ a Noelle Davies.

Gan greu awyrgylch nos Sadwrn, cyflwynodd DJ ieuengaf erioed BBC Radio Wales, Leanne Pearce (Precious) sy'n 20 oed, y rhaglen House Party.

Mewn llythyr yn Y Cymro mae'r Athro DJ Bowen (un sy'n haeddu'r anrhydedd ei hun) yn cynnig enw Meredydd Evans.

A fedrwn ni yn awr ddisgwyl gan Charles, pan ddaw (os daw) yn Frenin Cymru, y bydd, ar fyrder, yn rhoi Pardwn Brenhinol - o barch coffadwriaeth - i Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams?

Dyna hefyd at ei gilydd a wnai cyfrolau cynnar Kate Roberts a DJ Williams, er fod lle'r unigolyn ynddyn nhw eisoes yn cryfhau.