Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

docyn

docyn

Cerddodd rhai i lawr ond ces i docyn dychwel.

I wneud iawn am y miri roedd yn cynnig dau docyn iddyn nhw fynd i gyngerdd yn Neuadd Dewi Sant y nos Wener honno, ac yn wir roedden nhw yn yn amlen.

'Mi enillais i ddau docyn pêl-droed ddoe.

Chwiliodd am ei docyn a swagro'n ddifater at ei dren.

Y tu allan i'r corlannau, mae rhai mamau'n ceisio golchi'r staen oddi ar ddwylo eu plant - er mwyn mynd yn ôl am docyn bwyd arall.

Yna aeth o docyn tail gwartheg i docyn gan eu cicio yng ngolau'r ffaglen a hel llond tun o bryfaid genwair.

Wrth ymadael â'r orsaf, wedi dychwelyd adref o'r coleg ar gychwyn Cysgod y Cryman, mae'n taro'i docyn yn llaw'r gorsaf-feistr fel un sy'n 'gynefin â gweision'.

Mae'r Cymry Garry Houston, Mark Pilkington, Steven Dodd a Mark Mouland yn gwybod os gwnan nhw barhau yn eu safleoedd presennol yn rownd ragbrofol olaf y gylchdaith golff Ewropeaidd yn Sbaen y bydd gan bob un docyn ar gyfer cylchdaith Golff Ewrop y tymor nesa.

Aeth a'i docyn aelodaeth i'w hen eglwys ym Methel, ond nid Bethel ei blentyndod a'i lencyndod mo'r pentref bellach ac y mae digon o dystiolaeth ar gael iddo ganfod hynny'n fuan.

Yn ôl y gwybodusion roedd yr Is Gadair yn mynd i gael ei llenwi gan aelod sydd yn sefyll ar docyn Annibynol ond erbyn y cyfarfod blynyddol roedd y penderfyniad wedi newid.

Y wobr - dau docyn eistedd i unrhyw un gem gydwladol o ddewis yr enillydd.

Ac y mae'n ddirgelwch llwyr pam a sut y cafodd Edgar, Pas Candryll, docyn Equity.