Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

doeddwn

doeddwn

Roeddwn i'n gwybod mai fe oedd y dyn, a oedd yn ôl y sôn yn dad i mi; doeddwn i ddim yn ei adnabod.

Doeddwn nhw ddim yn edrych fel petaen nhw'n mynd i sgorio, meddai ar y Post Cyntaf.

Doeddwn i ddim yn cyd-fynd ag edifeirwch erchwyn gwely, rhyw yswiriannau munud olaf, lathen o glwydi uffern.

"Mi roeddan nhw wedi tario i lawr y Waen cyn dy eni di." Ond doeddwn i ddim awydd ei darfu o wedyn mewn lle mor gyfyng.

Roedd yna rhyw awydd yno i i symud o Manafon oherwydd doeddwn i ddim yn gartrefol ymhlith y Sais Gymry.

Doeddwn i ddim wedi meddwl ei bod yn jôc mor dda â hynny ond mi drawodd y tant iawn y noson honno.

Doeddwn i erioed wedi cyfarfod fy nain, a doeddwn i ddim eisiau hynny, boed hi'n fyw neu'n farw.

Doeddwn i ddim yn ffansi%o llawer arno a hefyd yn meddwl: Beth pe tase pawb yn penderfynu chwythu yn lle sugno, ach a fi !' Nid oedd y calabash yn dal llawer ond bob hyn a hyn, deuai un o'r dynion o'r cefn gyda llond tegell o ddŵr poeth a'i dywallt i'r gwin.

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

Gallwn, gallwn fod wedi mynd ato a'i gofleidio, doeddwn i ddim wedi bwriadu peidio.

Ond doeddwn i ddim yn disgwyl i Portiwgal guro Lloegr.

Er i mi weld Coch y Berllan lawer tro cyn hynny, doeddwn i 'rioed wedi bod mor agos ac yntau yn ei liwiau mwyaf llachar.

Wedi ffraeo efo Robat John a Sharon roeddwn i a doeddwn i ddim eisiau rhannu'r siocled efo nhw felly fe'i cuddiais o nes y cawn i gyfle i fod ar fy mhen fy hun.

Doeddwn i ddim wedi bod yno ddim dau funud, pan ddaeth rhyw hen fachgan ata i'n llon i gyd.

Fe wyddai'n iawn mai fi oedd ei fab, ond doeddwn i ddim mor siŵr mai yntau oedd fy nhad.

Doeddwn i erioed yn fy mywyd wedi gweld carchar.

Doeddwn i ddim yn mynd i godi o'r gadair fach yr eisteddwn ynddi er iddi wneud ei gorau glas i ryddhau fy nwylo oddi ar y breichiau.

Pan oeddwn in chwarae doeddwn i ddim y chwaraewr mwya ar y cae o bell ffordd.

doeddwn i ddim eisiau trafferth gyda'r heddlu.

ryw saith mlynedd yn ôl.' ''Doeddwn i ddim gartra'.'

Tan yr eiliad hon doeddwn i ddim ond wedi ei adnabod trwy luniau.

Doeddwn i erioed wedi meddwl y gallai gwely bach fod yn destun drama fawr.

Gan na allwn siarad Saesneg yn dda iawn doeddwn i ddim eisiau gadael Cymru am wlad newydd mor bell i fwrdd.

Ar yr un pryd, drwy ddarlledu lluniau o sachau bwyd a oedd yn amlwg wedi'u dwyn ac ar werth ar stondinau'r farchnad a thrwy adrodd straeon am famau'n `aberthu' eu babanod, doeddwn i ddim yn bwriadu darbwyllo'r Cymry i beidio â rhoi.

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli, mae'n amlwg, fy mod innau hefyd yn gynnyrch y gymdeithas honno, a bod y 'consumer society' bondigrybwyll wedi esgor ar ddiwylliant cyfan yr oeddwn innau'n rhan ohono yn ddiarwybod i mi fy hun.

Doeddwn i fawr o arwr ond os dioddef oedd raid, gwell diodde'n urddasol.

Y nos Sul gyntaf i mi yno, ar ôl i mi ddod o'r capel, meddai Mam wrthyf, "Rhaid i ti godi'n fore i fynd i'r ysgol fory." Doeddwn i ddim yn rhyw falch iawn o glywed hynny gan mai peth go fawr i fachgen swil yw mynd i ysgol newydd, i ganol plant dieithr.

Doeddwn i ddim yn meddwl bod lloches yn lle neis iawn, ond roeddwn i'n gwbl anghywir.

Peidiwch â chamddeall doeddwn i heb agor clawr y nofel pan ffurfiais y farn hon.

Doeddwn i ddim yn gweld llawar arnyn nhw pan oedden nhw'n fach þ eu mam oedd efo nhw ar hyd y dydd." "Fel 'na mae hi.

* "Doeddwn i ddim yn sicr lle i droi ffwrdd oddi ar y draffodd felly ceisiais estyn map o'r 'glove-compartment'.

Gan fy mod wedi chwarae i ysgolion gogledd Cymru ac yn un o'r treialon rhyngwladol i fechgyn ysgol, doeddwn i ddim yn hapus gyda'r syniad o chwarae i unrhyw ail dîm.

'Doeddwn i ddim yn credu'r hyn yr oeddwn yn ei weld'.

Doeddwn i ddim yn bwriadu sôn o gwbwl am ddigwyddiad pwysicar wythnos - y darganfyddiad syfrdanol fod gan Judy Finnigan ddwy fron.

"Doeddwn i ddim wedi bwriadu bod." Agorodd ei llygaid yn fawr.

Tua deg oed oeddwn i pan symudodd fy rhieni i fyw o Dywyn i fferm fechan yn y wlad, ac i gychwyn, doeddwn i ddim yn hoff o'm cartref newydd.

Mi hoffwn i fedru gofyn iti ddod acw ond dydi Megan ddim yn rhy dda'r dyddiau hyn, fel gwyddost ti." "Doeddwn i ddim yn disgwl y fath beth." "Fydd hi ddim mor hawdd dod i dy weld ti yn Lloegr ond mi fydda i'n hapusach o wybod dy fod ti'n câl gofal a thitha wedi bod yn cwyno cymaint yn ddiweddar.

O neidio i'r car at Redwood neu weiddi ar ôl Hunt doeddwn i ddim wedi eistedd i lawr a meddwl am hyn yn ofalus, ddim yn yr achos penodol hwn.

'Doeddwn i 'rioed wedi amgyffred y fath beth.

Duw a wyr, Mair, fe wnest ti gymaint drosti ag oedd yn ddynol bosibl - mwy na hynny bron, 'nghariad i." "Ond doeddwn i ddim yno pan oedd arni fy ngwir angen i..." "Os oedd hi wedi penderfynu erbyn hynny, yna doedd mo d'angen di na neb arall arni pan ddaeth yr amser.

Doeddwn i fowr mwy na chrwt, a rown i eisie rhedeg, rhedeg bant i rywle, yn gweiddi, yn sgrechen.

Cofiwch, doeddwn i ddim yn deall ffyrdd pobl y mynydd ar y dechrau.

'Rwy'n digwydd bod yn ffrind da i Ffantasia, a doeddwn i ddim am weld Gwenhwyfar yn colli'i chalon eilwaith.

Ond rhywsut 'doeddwn i ddim.

O'r foment honno doeddwn i ddim eisiau gwneud dim byd ond actio." Wedi bwrw'r fath brentisiaeth, ofer fu ei ymdrechion i fynd i ddysgu a hunllef oedd meddwl am wynebu llond stafell o blant ysgol.

Mae'n ddrwg gen i, 'doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn anfoesgar.' 'Roeddech chi'n swnio'n hollol fwriadol.' O'r gorau, bwriadol oedd o.

Doeddwn i ddim yn or-hoff o'r syniad o gynnal parti unwaith y mis i bob plentyn oedd wedi cael pen blwydd yn ystod y pedair wythnos flaenorol!

Wel, doeddwn i ddim am eistedd yn y bws am ugain munud, ac felly es am beint i'r bar oedd â'i ddrws yn gyfleus iawn yn union gyferbyn â drws y bws.

Doeddwn i ond yn gobeithio y byddai gan un o drigolion hynaf y fro ambell atgof neu hanesyn diddorol ar fy nghyfer.

Doeddwn i ddim yn siwr iawn, ond am fod Mam wedi bod mor bethma, atebais, 'Ydw.

Wrth gerdded ar ei ôl ar hyd yr ysgol, doeddwn i'n gweld neb, ond mi wyddwn fod llygaid degau o blant arnaf, a theimlwn fy wyneb yn llosgi'n dân gan swildod.

A dweud y gwir, doeddwn i ddim wedi amau o gwbl fyddai o'n dod.