Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

doethineb

doethineb

b) Meddiannu doethineb wrth reoli gweithredoedd.

Ffurfiwyd amserlen drom o hyfforddi, a'r dewiswyr yn eu doethineb yn rhoi saib i'r prif chwaraewyr bob hyn a hyn yn ystod yr wythnose ola cyn y gêm, er mwyn sicrhau brwdfrydedd pob aelod o'r garfan.

Wrth gytuno ag ef, gosododd y Pwyllgor y ddadl hyd yn oed yn fwy cignoeth, gan apelio at ystyriaethau doethineb hirben ac o fuddioldeb yn ogystal â moesoldeb:

Heb arweiniad a doethineb y rhai hþn, byddai'r drefn gymdeithasol o fewn yr haid yn datgymalu, a hyd yn oed yn dymchwel.

Credaf fod gwraig gþr ar y Dôl angen doethineb Solomon a chyfriniaeth Myrddin.

Safodd Alun ar ei draed a'i wyneb yn welw a doethineb llawer hŷn na'i oed yn ei eiriau.

Greawdwr daionus, cynysgaedda ni â doethineb.

Yn sicr, doethineb elfennol ar ran y neb a fynnai ei mentro hi a fyddai gwisgo helm i ddiogelu ei benwendid.

Yn ôl y sôn, mae i bawb ei le o fewn yr hiad, ac mae doethineb y rhai hþn yn allweddol i barhad y gymuned arbennig honno o anifeiliaid.

Os oes lle i amau doethineb barn Gruffydd wrth ehangu maes trafod Y Llenor, nid felly cywirdeb ei reddf.

Hyderwn ein bod wedi cael y moddion gorau i roddi mantais i'r holl fyfyrwyr Cymreig i gyfarfod a'u gilydd yn Rhydychen; a gallwn sicrhau y caiff myfyrwyr newydd groeso calon, a doethineb profiad yr hen aelodau, a gŵyr myfyrwyr mor werthfawr ydyw hwn, ar eu dyfodiad yma.

Tra oedd y disgyblion yn dyfalu beth i'w wneud, ac yn amau doethineb y bwriad i ddychwelyd ar y daith beryglus i Fethania peryglus am fod yr awdurdodau yn ceisio dal yr Iesu a'i ladd Tomos oedd yr un, parod i fynd gyda'r Iesu bob cam o'r daith, parod i wynebu'r canlyniadau.

Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.

Mae llawer yn datgan slogan megis 'Heddwch i'n plant' 'Doethineb heddiw, heddwch yfory'.