Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dof

dof

Rhedodd y geifr i lyfu llaw Deio, ac yr oedd hyd yn oed y defaid yn ddigon dof i Cadi roi ei llaw ar eu pennau.

A chyda'r Trefnydd Busnes, Andrew Davies, yn cyhoeddi y cynhelid trafodaeth ar bwnc cig eidion ar yr asgwrn cyn gynted a bo hynny'n briodol daeth y sesiwn cyntaf - dof a digon anniddorol mewn gwirionedd - o gwestiynau i'r Prif Ysgrifennydd i ben.

Dof y nol at y pwynt yna'n nes ymlaen.

Mae'n ddigon dof a di-arogl heddiw, ond fe ddaw'r prynhawn pan fydd pawb yn gwybod ei fod e' yna.

Os trof fy wyneb tua'r gogledd, dros y bencydd moel a'r rhosydd llaith, heibio i Gnwc-y-frân a thros afon Carrog ar hyd Cefn Du ac ymyl Penlanolau, dof at fy hen gartref yng nghysgod y graig yn ymyl y llyn.

Ceisiodd brynu amser trwy sefydlu Quango dof -- 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg' -- gan ddewis yr aelodau eu hunain.

Nid oes gwybodaeth fanwl pryd y gosodwyd i lawr derfynau'r plwyfi ond yn ddiamau fe fu nodweddion ffisegol y wlad fel afon a bryn, toriad y dŵr ynghyd â hen lwybrau dyn ac anifail gwyllt a dof yn help i benderfynu'r ffin.

"Dof," addewais.

Yr oedd y rhai mwyaf dof ohonynt yn ddigon bodlon ar y drefn esgobol ac at ei gilydd yn parchu'r ddisgyblaeth eglwysig ond yn gobeithio y gwawriai diwrnod gwell cyn bo hir pan symudid y pethau a'u tramgwyddai.

Magodd a chynyddodd yr þydd Wyllt Gyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond dichon mai adar dof oedd eu cyn-dadau.

Llygod - sgwaters ydyn nhw nid rhai dof - a slygs ac mae'r slygs yn bwyta'r gwenwyn llygod.

alarch dof, alarch gwyllt ...

Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl mai llwyddo wnaiff fy achos yn y diwedd, waeth beth fyddai'r profedigaethau a'r gorthrymderau y dof i, a'r rhai sy'n rhannu fy ngweledigaeth, ar eu traws ar y daith.

Mae tair rhan i Warchodfa o'r fath; y rhan addysgiadol sy'n arddangos adar dof i'r ymwelwyr, a'r rhan sy'n ymwneud â gwaith ymchwil, ac yn datblygu dulliau o fagu rhywogaethau prin a'u dychwelyd i'w cynefin gwyllt naturiol.