Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dogfennol

dogfennol

Mae tebygrwydd sylfaenol rhwng y ddwy nofel yn eu defnydd o ffurf y cronicl dogfennol sy'n cofnodi hanes un teulu dros gyfnod hir, yn cyfateb mwy neu lai i flynyddoedd cynnar y ddau awdur.

Rhoddwyd cyfweliadau personol i oruchwylwyr ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin a rhan o sir Benfro, ond wrth gwrs, nid oes sicrwydd bod yr wybodaeth ystadegol a roddwyd yn fanwl gywir, gan ei bod yn aml heb gadarnhad dogfennol.

Os yw haeriad Lewis Morris yn gywir y cyfeiriad dogfennol cyntaf at yr afon (er, nid yn benodol wrth ei henw) yw hwnnw a geir yn Historia Britonum Nennius, gwaith a luniwyd dros fil o flynyddoedd yn ôl.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.

Yn ogystal â chwaraeon byw, roedd chwaraeon yn rhan o'n cynnyrch dogfennol.