Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dogma

dogma

Breuddwyd Iolo oedd sefydlu cymdeithas a fyddai yn hollol agored i bawb a fynnai chwilio am wirionedd crefyddol, heb ofyn am unrhyw amlyniad i gredo na dogma.

'Am dros ddegawd, dioddefodd y system addysg yng Nghymru ffrydlif o ddiwygiadau honedig nad oedd yn berthnasol i Gymru, ac yn ymwneud yn unig â dogma marchnad rydd y Torïaid.

Mae'r ymdrech i gyflwyno dogma'r farchnad i fyd addysg wedi gosod ysgolion bach yn erbyn ei gilydd.

Heb ddim o'r holl bethau hyn, yr oedd bopeth ac yn afieithus fyw: y math o ddyn sydd yn ein gwthio, muled a fulo, i gredu fod yna rywbeth wedi'r cwbl nas trechir gan angau fyth, a hynny nid am ei fod a wnelo un dim â dogmâu crefyddol, ond am fod dyn yn ei briod berson yn annistrywadwy.

Dewisodd ef ochri gyda 'dogma a sagrafen a deffiniad mewn crefydd' (er nad oedd eto wedi ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig), ond parchai hefyd y rheini a arddelai anffyddiaeth rhonc - sef dogma anghrefydd.