Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dop

dop

Pan ddaeth yn ddiwrnod mynd â'r ferfa allan am y tro cyntaf, a chychwyn o dop y cae tu ôl i'r tū efo hanner ei llond o gerrig, dim ond tua chwarter y ffordd i lawr y daeth na chraciodd yr olwyn wrth yr echel a throi ar ei hochor yn ddau ddarn a'r ferfa ar ei thrwyn yn y ddaear.

Mae hi reit i fyny yn dop y dre, a wedyn mi oedd raid i ni gychwyn yn gynnar, wrth bod 'na dipyn o waith cerddad.

Magodd blwc a rhedodd ar ei hôl, a'i chornelu lle na fedrai ddianc, ar dop y grisiau oedd yn arwain i lawr i'r ystafelloedd newid.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Nid sach fechan tebyg i sach lo oedd hon, ond o'r un maint â sach wenith ers talwm, ac roedd hi wedi'i stwffio'n llawn dop â rupies.

Mae'r ffaith fod yr actorion i gyd yn siarad ar dop eu lleisiau, yn aml yn gweiddi, yn ychwanegu at y gwrthdaro.

Mae'r llyfrau yma'n rhoi cyfle ardderchog i rieni a phlant rannu'r profiad o ddarllen straeon ac edrych ar y lluniau sy'n mynd efo'r stori, gydag un frawddeg fer, hawdd, ar dop y tudalen i'r plentyn ei darllen allan yn uchel, ac yna testun hirach ar waelod pob tudalen i'r rhiant ei darllen allan.

"Wel, os ydy o," meddai Cadi ar dop ei llais.

Hongiai ei wallt yn rhacs llwyd dros ei glustiau, ond roedd cylch moel ar dop ei ben, fel mynach, neu fel petai UFO wedi glanio yno rhywbryd ac wedi serio'r tyfiant ar ei gorun.

Peidiwch â nghamddeall i – mae hon yn albym ddigon dymunol, a does gen i ddim amheuaeth y bydd hi'n plesio cefnogwyr y grwp; ond ar hyn o bryd mae Word Gets Around yn dal i fod ar dop y rhestr, er bod yna bellach dair blynedd a hanner ers ei rhyddhau.