Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

doreth

doreth

Y mae yna gred gyffredinol fod yma doreth o ddŵr wedi ei gaethiwo yn rhewllyd mewn cilfachau dyfnion o'i mewn yn union fel y ceir rhew parhaus o fewn y Twndra yma ar y Ddaear o fewn yr Artig oer.

Un o refeddodau mawr ei fywyd ef yw iddo wneuthur yn ei ystod y fath doreth anferth o waith o bob math.

Mi fyddia'n dlawd ar y rheini heb doreth o eira i dynnu ei lun a robin goch yn rhynnu ar frigyn coeden gelyn ar y canfas gwyn.

JE Caerwyn Williams, yn ei ddull manwl arferol, a sicrhaodd gywirdeb y testun, ac achubodd hefyd ar y cyfle i ychwanegu, o'i wybodaeth hynod eang am lenyddiaeth Cymru ac Ewrop yn y cyfnod canol, doreth o nodiadau tra defnyddiol ar fanylion iaith a chynnwys a fydd yn goleuo'r testun mewn modd amheuthun i bawb a fydd yn ei ddefnyddio.

Mae na doreth o emosiynau yn y straeon bach cynnes yma hefyd gyda nifer o'r cymeriadau yn ennyn hoffter.

Mae yna gryn dipyn o gynnwrf wedi bod am y cynnyrch gan fod yna doreth o artistiaid eraill yn cyfrannu at y casgliad sydd bellach yn dipyn o draddodiad gan y grwp.

cyfoethogir cyflwyniad syml a dirodres yr awdur gan doreth o luniau lliwgar, nifer ohonynt yn lluniau dychmygol.