Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dorrodd

dorrodd

Darganfu'r patholegydd wedyn nad canser oedd arni ond wlser stumog a dorrodd trwodd i'r pancreas - peth digon rhwydd i'w wella.

Ar y llaw arall fe dorrodd Phil Price 70 am y trydydd diwrnod yn olynol efo rownd arbennig o dda - 68 - mewn gêm gyfartal efo Retief Goosen.

Dro arall fe dorrodd i mewn i'w swyddfa drwy'r ffenest, gwasgaru ei ffeiliau, a rhwygo baner Jac yr Undeb oedd yn hongian ar y wal.

Nid oedd yn flwydd oed pan gollodd ei dad ynghyd â'i ddau frawd hynaf yn y dinistr a fu pan dorrodd dŵr i mewn i waith glo Argoed.

Oedd y ddau deulu yn ffrindiau erioed a phump oed oedd fy nhad pan dorrodd y dant cynta i fy mam.

Dyfal donc a dorrodd y garreg yn rhy amlond yn y diwedd llwyddodd ymdrechion ac amynedd a phenderfyniad.

O'r diwedd fe dorrodd y ffyrm.

Trychineb yn digwydd pan dorrodd argae Eigiau uwchben Dolgarrog a lladd 16.

Sawl storm dorrodd drostynt tybed?

Oedodd Manon, ond cyn iddi fedru dweud rhagor, fe dorrodd ar ei thraws.

Ateb Teyrnon i'r ymgais gyntaf am ddial oedd trais: fe dorrodd fraich yr anghenfil a oedd wedi cipio'r plentyn.

Yn sicr, yr oedd natur wedi ei dorri allan i ddal swydd athro mewn rhyw brifysgol, ac nid i ddal yr aradr; ffigiwr gwael a dorrodd hefo'r gwaith hwnnw.

Ac yn un o'r teithiau hyn, hyd y paith, fe dorrodd y Dodge i lawr a bu bron i Homer oedd ond baban rewi oherwydd yr eira oedd ar y llawr a'r gwynt oer yn chwythu.

Fe dorrodd y gwely yn ystod y nos a bu raid imi gysgu ar lawr.

Soniai am y ganmoliaeth a gafodd gan y meddyg lleol ar ôl ymarfer cymorth cyntaf pan dorrodd fy mrawd hynaf ei fraich wrth gwympo ar y 'patshyn'.

Ond roedd y llanciau mewn poen enbyd, yn enwedig yr un dorrodd ei goes.

Fydd Caerdydd ddim yn enwi clo Abertawe, Tyrone Maullin, wedi tacl uchel dorrodd ên a thrwyn asgellwr Caerdydd, Paul Jones, yn y gêm yng Nghynghrair Cymru a'r Alban ar Sain Helen.

Syrth calon Bronwen 'fel pendil cloc pan dorro ei lein' ('Gorymdaith'); mae Lora'n teimlo ias 'tebyg i'r un a gafodd pan oedd yn blentyn, pan dorrodd lein y cloc mawr yn y gegin, gefn trymedd nos' (Y Byw Sy'n Cysgu); cwyd y pwysau oddi ar fynwes Bet 'yn araf, fel pendil doc yn codi wrth ei ddirwyn' (Tyroyll Heno).

Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan ymunodd a'r Llu Awyr fel "Wireless Operator".