Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dosbarthu

dosbarthu

Beth sydd gan ryw i wneud â dosbarthu copi%au o Delta ddywedwch chi?!

Mam sy'n dosbarthu posteri'r Wyl Ddrama neu rywbeth ...'

Hanner awr o daith mewn bws 'Crosville' unllawr, hen ffasiwn, a'r conductor yn dosbarthu tocynnau unigol o flwch pren pwrpasol.

Try'r fentr yn ddiwydiant proffesiynol, rhwng gweithgaredd June yn trefnu archebion dros y ffon gyda chwsmeriaid fel Mr Sainsbury, Dave yn dosbarthu'r cynnyrch gefn nos ar ei fotobeic, a Mona yn teipio'r cyfrifon.

Mae'r problemau hyn yn codi yn bennaf o ganlyniad i werthu uniongyrchol o'r canolfannau mewn achosion lle mae cost cludiant yn ddrud iawn, a hefyd yng nghyswllt Cynllun Adnoddau CBAC oherwydd bod effeithiolrwydd y system yn dibynnu ar swyddogion yr Awdurdodau sy'n gyfrifol am y dosbarthu i'r ysgolion.

Dosbarthu byd-eang.

Wrth ystyried dulliau gwerthu, gwelir rhai adnoddau yn cael eu gwerthu o'r canolfannau unigol yn unig, eraill ar werth yn y siopau (drwy'r Cyngor Llyfrau) yn unig, eraill ar werth yn y canolfannau a'r siopau (drwy'r Cyngor Llyfrau), ac eraill eto yn cael eu dosbarthu yn rhad ac am ddim.

Ystyried hyd y gellir, fanylion y Gelfyddyd, awgrymu Alawon Gosod a cheisio'u dosbarthu, deall eu ffuffiau, y rheol o ddyblu etc.

Bydd y cwmni'n dosbarthu i'r siopau eu hunain, ac yn gofalu hefyd am yr ochr hawlfraint.

Wedi iddyn nhw impio, cânt eu dosbarthu ar hyd a lled y wlad.

Gwaith y pwyllgor hwn, a ganolwyd ar CILT, oedd casglu a dosbarthu gwybodaeth, cynnal cynhadledd breswyl genedlaethol, a chyhoeddi cylchlythyr tua dwywaith y flwyddyn (a oedd ar gael oddi wrth CILT).

Dylid cofio, wrth gwrs, inni ddefnyddio Golwg, Llafar Gwlad, Y Wawr, Fferm a Thyddyn, Cristion a Tafod y Ddraig er mwyn dosbarthu'r holiadur, a dylid cadw hyn mewn cof wrth ddehongli'r ffigurau.

Gwelodd y grwpiau athrawon a oedd yn gwbl ddibynnol ar eu hadnoddau eu hunain (i drefnu dyddiadau a mannau cyfarfod, dyblygu a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd, meysydd llafur a phrofion drafft, etc.) yn eithaf buan ei bod yn amhosibl iddynt barhau.

Bu Israeliaid yn dosbarthu taflenni mewn angladd yn Jerwsalem ag arnyn nhw: Mae cytundeb Oslo'n farw.

Ond mae'n debyg i'w hawdur drefnu i'w hargraffu ar daflen a'i dosbarthu ymhlith ei gyfeillion a'i gydnabod, a gwelodd y llyfryddwr Charles Ashton o Ddinas Mawddwy un o'r taflenni hyn, a cheir disgrifiad ohoni ymhlith ei bapurau.

Mewn maes mor fawr anodd yw dethol y prif ddatganiadau a dehongliadau, a mwy anodd wedyn yw dosbarthu yn daclus.

Dosbarthu holiaduron trwy'r post a wnaeth Wenker ar gyfer ei waith ar dofodieithoedd Almaeneg, dull y mae iddo lawer o anfanteision, ond ar gyfer Ffrangeg, tua'r un cyfnod, gweithiau Gillieron trwy anfon cyd- lafurwyr at y siaradwyr a chofnodio'r deunydd wyneb yn wyneb.

Wrth i'r Bwrdd gyhoeddi y byddan nhw'n dosbarthu drafft o ganllawiau iaith yn yr Hydref, fe gawson nhw'u beirniadu gan Eleri Carrog o'r mudiad Cefn am lusgo'u traed.

Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin serch hynny yw eu bod yn dibynnu'n gyfan gwbl ar hysbysebion, ac felly ar beirianwaith dosbarthu effeithiol.

Jigso - Mae'r adroddiadau ar y Cynllun Jigso Lleol yn awr ar gael ac yn cael eu dosbarthu gan Mrs Jean Evans.

Yr oedd y cwestiynau cyntaf yn ymneud â dosbarthu a thrafod cynnwys y Ffeil Goch.

Bydd y cyfrifiaduron yn cael eu dosbarthu i'r ysgolion buddugol yn fuan.

O'r diwedd mae dyddiad rhyddhau albwm Caban wedi cyrraedd, a'r wythnos yma mae ‘na stoc go dda o'r cd's wedi cael eu dosbarthu i'r siopau.

Wrth estyn y gwahoddiad, amlinellodd brif elfennau ei swyddogaeth: bod yn fforwm a fyddai'n gallu cynghori llywodraeth ganol a lleol ar bolisi iaith; gwella cydlynu ymhlith asiantaethau sy'n cyfrannu at addysg yn yr iaith Gymraeg; dynodi anghenion datblygiad, a blaenoriaethau oddi mewn i'r anghenion hynny, ac i fod yn gyfrwng i'w hateb; dosbarthu gwybodaeth; dynodi anghenion ymchwil.

"Pan gychwynnwyd y strategaeth ddrama ddiwedd y 90au doedd y Cyngor ddim wedi cael arian ychwanegol am bum mlynedd i'w dosbarthu i'r sector ddrama," meddai.

Mae mwyafrif y ceisiadau am gyhoeddi deunyddiau yr Uned Iaith Genedlaethol wedi eu prisio ar sail dosbarthu drwy warant h.y.

Gellir eu dosrannu'n dri maes: (a) datblygu hyfforddiant, (b) datblygu adnoddau, ac (c) dosbarthu gwybodaeth.

Roedd - - yn gweld fod y cronfeydd datblygu yno gan fwyaf i'w dosbarthu i gwmniau newydd a bychain.

Yn yr anialwch, bydd y llwythau'n dosbarthu eiddo yn ôl angen yr unigolyn, ac mae sosialaeth Gadaffi yn rhoi mwy o bwyslais ar yr unigolyn nag yw'r Marcswyr traddodiadol.

Rhaid sicrhau ein bod yn dosbarthu'r ddeiseb mor eang â phosib ymysg y choedd a mudiadau a chymdeithasau a chyrff eraill.

Aeth y Cenhedloedd Unedig â ni ddwywaith i'r de o Addis i weld y gwaith tymor hir - a oedd yn cynnwys un o'r clinigau cynllunio teulu lle caiff condoms eu dosbarthu am ddim.

Hefyd roedd nifer o fasgedi yn cynnwys cig iâr a sglodion ar fwrdd yn y gwesty, yn barod i'w dosbarthu a neb yn cadw llygad arnynt.

Eto i gyd, oherwydd costau cludiant, does dim gobaith dosbarthu'r bwyd i bobl anghenus y wlad.

sy'n gyfrifol am hyn, gan fod y ffruflenni wedi'u dosbarthu i'r penaethiaid/cydlynwyr ar gwrs HMS a'u dychwelyd y diwrnod hwnnw.

Mae'r ffaith bod y carfannau yma wedi uno - er eu bod fel arfer yng ngyddfau ei gilydd - a'u bod wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, oriau'n unig ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yn dosbarthu taflenni i staff y Cyngor ddydd Iau diwethaf yn tanlinellu pa mor sensitif yw'r mater yma.

Ond, cadarnhaodd datganiad arall o enau'r Ysgrifennydd Cartref fod rhaid i'r Llywodraeth amddiffyn bywyd, eiddo'r cwmniau rheilffyrdd, a'r rhwydwaith er dosbarthu bwyd.

'Cronfa gyhoeddi', sef cymorth tuag at gostau argraffu a gwerthu holl gynnyrch yr Uned ar y sail bod yr adnoddau yn cael eu gwerthu i'r ysgolion, nid yn cael eu dosbarthu am ddim.

Does dim rhaid ichi ychwaith boeni am na phapur lapio na selotêp na stamp na dosbarthu gan y bydd popeth yn cael ei lapio ichi ai gludo i ben ei daith.

Mae'r ymdrechion hyn ynghyd â'r gwaith wnaeth y gwirfoddolwyr yn dosbarthu a chasglu amlenni o dy i dy yn haeddu'n diolch.

Mae'r ffaith bod y carfanau yma wedi uno - er eu bod fel arfer yng ngyddfau ei gilydd - a'u bod wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, oriau'n unig ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yn dosbarthu taflenni i staff y cyngor yn tanlinellu pa mor sensitif yw'r mater yma.

B CYHOEDDI - sef atgynhyrchu neu ddyblygu nifer o gopi%au o'r adnawdd, marchnata, gwerthu, dosbarthu, storio, a sicrhau cyflenwad i'r dyfodol.

Y sefyllfa arferol yw dosbarthu un copi cyfarch i bob ysgol gyda chopi%au pellach yn cael eu gwerthu am yr un pris ag adnawdd tebyg yn y Saesneg.

Cynhyrchwyd taflenni i'w dosbarthu i lywodraethwyr ac ysgolion yn amlinellu manteision addysg Gymraeg, a rhagwelir mai cyflenwi gwybodaeth am y Gymraeg fel iaith a chyfrwng fydd un o brif swyddogaethau'r pwyllgor yn y dyfodol agos.

Amazon.co.uk yw siop lyfrau ar-lein sy'n cynnig dosbarthu pob llyfr Prydeinig yn fyd-eang.

Un o'r gwyr a effeithiodd arno oedd Thomas Gerard, gwr a fu'n brysur iawn yn dosbarthu Testament Newydd William Tyndale a llyfrau Lutheraidd.

Crynhoi a dosbarthu sgiliau addysgu athrawon.

O ganlyniad i'r trefniadau presennol, mae problemau dosbarthu yn amlygu eu hunain yn aml, gydag enghreifftiau lu o drafferthion ynghlwm wrth y broses o gael adnoddau o'r canolfannau neu'r cyhoeddwyr i'r ysgolion.

Dyna'r rheswm, mae'n debyg, paham na fu awdurdodau'r Eglwys yn yr Almaen a'r Eidal fel petaent yn dymuno gwahardd neu rwystro'r cyfieithiadau hyn rhag cael eu dosbarthu ymysg y boblogaeth yn y ddwy wlad.

Mi gawsom i gyd hefyd brawf ffitrwydd, a'n dosbarthu o ran oedran.

Yr hyn a wnaed oedd rhoi bwndeli o slipiau bach o bapur, a'r Cyfamod wedi ei argraffu arnynt, i gefnogwyr a'u hannog i'w dosbarthu a chael cenwau arnynt yn y gwaith, y siop, yr ysgol ac ati.

Gellir dosbarthu'r bobl hyn yn bedwar grŵp.

Ar ôl iddo ddarfod pregethu âi o amgylch y dyrfa fyddai wedi ymgynnull yn dosbarthu tractiau.