Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dost

dost

Gallai gwraig adael ei gŵr os oedd e'n dost iawn neu os oedd ei anadl yn drewi.

Bu bron i Angharad dagu ar friwsionyn o dost pan adnabu'r llais.

O ran hynny, yr oedd ganddo esgus da, ond yr oedd yn rhy falch i'w ddefnyddio, yr oedd y codwm a gawsai wedi ei ysigo yn dost, ac anafu, neu o leiaf amharu, pob migwrn ac asgwrn ohono.

Pan glywodd yr Yswain yr hanes, teimlai yn dost dros Harri, a diflasodd gryn lawer ar bleser y dydd iddo.

Noder ymhellach nad oedd y dyn yn helpu i wneud bwyd nac yn helpu i lanhau'r tŷ: cerdded y mynydd y mae Morgan yn 'Buddugoliaeth Alaw Jim' nid cynorthwyo'i wraig er bod Tomi'r crwt wedi bod yn beryglus o dost; mynd 'i ben y drws i synfyfyrio' y mae Wat Watcyn yn 'Diwrnod i'r Brenin,' a mynd yno i 'ddisgwyl am ei frecwast' er bod y dyddiau i gyd yn wag iddo; a beth a wna Idris yn rhan agoriadol 'Gorymdaith' ond gorwedd ar ei wely?

Y prydau trwm llawn caloriau a gaiff eu bwyta yn hwyr yn y nos yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o roi pwysau ychwanegol ar eich corff, nid y bwyd y byddwch yn ei fwyta i frecwast, yn arbennig os byddwch yn dewis frawnfwydydd neu dost.