Ac eto, tra bo pobl gwledydd y Baltig yn ystwyrian a phleidleisio tros ryddid, y mae mwyafrif pobl Cymru'n dotio cael eu sarhau a'u sathru.
Roedd y cyhoedd wedi dotio ar y Cloc Blodau hwn, ac roedd pawb yn y ddinas yn hynod falch o'r cyfan.
Agorodd y ffenest a phwyso ar y rhan isaf i lenwi ei hysgyfaint ag awyr iach a dotio ar lesni tyner yr awyr.
Roedd hi wastad yn dotio at floda.
Mae hi'n eistedd r y bloda ac yn dotio atynt.
Cafodd y fraint o dderbyn Mr Alun Garner yno, a mi 'roedd wedi dotio cael cartref mor Gymreig ynghanol y paith.
Angharad fach yn fyw i gyd ac yn chwerthin a dotio, a phawb yn wlyb doman.
Y mae mor anodd gallu dirnad bellach pam yr oedd y genhedlaeth honno'n dotio clywed Christmas Evans a'i gyfoeswyr yn traethu.
Dyna'r gwir heddiw am y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru; a Chymru Gymraeg a'i creodd hi, ei chynnal hi, dotio ar ei graddau anrhydeddus hi, a bodloni mai gradd diraddiad y Gymraeg yw diploma ei hanrhydedd hi.
Roedd y Groegiaid wedi dotio atyn nhw a hyd heddiw maen nhw'n cael eu hadrodd a'u hysgrifennu mewn sawl iaith ledled y byd.
Bydd yn mwynhau ei chysgod ar ddiwrnod poeth; bydd yn dotio at liwiau a ffurfiant ei dail; fe wêl yr adar yn trydar ynddi a gyda'r nos bydd yn llawn syndod wrth edmygu ei ffurf yn erbyn cochni'r machlud.
Fe fyddai bron â dotio ar y cwysi a drôi'r aradr, a theimlech ei fod yn rhan o'r cae, fod iddo wreiddiau yn anwylo'r âr yr oedd yn gwyro trosto.