Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drachefn

drachefn

Ceir toriad effeithiol drachefn yn y goferu rhwng yr wythawd a'r chwechawd, ac y mae cynghanedd sain yn llinell gynta'r chechawd, yn nodweddiadol o'r math o dyndra persain a geir mewn llawer o'r sonedau hyn:

Drachefn eleni bu casglu arian at Gymorth Cristnogol; hynny o ddrws i ddrws yn y dref gan aelodau gwahanol eglwysi a thrwy daith feicio noddedig gan y bobl ifainc.

Yn swyddfa'r stadiwm bu swyddogion Holland a Chyprus yn trafod am yn agos i awr cyn i Gyprus gytuno i chwarae drachefn.

Nodiodd Nain gan sychu'i thrwyn drachefn a'r dagrau'n cronni yn ei llygaid hi ac yn cychwyn rowlio i lawr ei bochau hi wedyn.

'Chlywais i erioed am Mozart, ond wedi canu'r ddisg, cymaint oedd fy mhleser fel y cenais hi drachefn a thrachefn.

Tra oedd yn cerdded fel hyn, ei meddwl yn bell oddi wrth y bobl o'i hamgylch, agorodd merch ffenestr llofft tŷ cyfagos a galw allan, "Pamela, be wnei di yma?" Trodd Pamela i weld pwy oedd yno ac meddai'r ferch wrthi drachefn, "Rown i'n meddwl amdanat ti ychydig eiliadau cyn iti ddod i'r stryd.

Ar y funud honno, syrthiodd un o'r dynion oddi ar ei geffyl a bu farw; ond trwy law Samson daeth yn fyw drachefn.

Gwelwn fod fy nghynlluniau wedi eu drysu, ac ar y pryd meddyliwn nad oedd dim yn agored i mi i'w wneud ond rhoi heibio'r bwriad o fynd i'r coleg, ac ymroi ati gyda'r business drachefn.

Symbol y cyfeillgarwch a'r malu yw'r cwt bugail a adeiledir yn llythrennol ar lwyfan a'i falu drachefn.

Trodd drachefn at Sioned.

Gan saethu am y tro olaf estynnod Attilio i fyny a darganfod, er dirfawr ryddhad iddo, ei fod yn medru gafael yn ei raff drachefn.

'Wyt ti wedi cael merch rywdro?' Llyncodd Dei ei boer drachefn er bod ei geg yn sych.

Pe gofynnech i un o hen lowyr dyffryn Aman am leoliad un o'r gwythiennau hyn fe ddywedai wrthych ar unwaith ei bod yn brigo i'r wyneb fan hyn, yn diflannu fan draw ac yn ymddangos drachefn mewn man arall.

Pan ddaw'r glaw eto i yrru i lawr drwy'r bwlch, neu pan ddaw'r niwl drachefn i or-doi'r arlwy o brydferthwch sydd o'm cwmpas heddiw, fe'm hyrddir unwaith eto i bwll o iselder ac anobaith.

rhedodd y tri, gethin yn gyntaf, o amgylch coed a dyfai ar y lan i weld a oedd eu cyfaill yn ddiogel, ond erbyn iddynt ddod i olwg y gangen drachefn nid oedd ffred i 'w weld yn unman unman ffred !

`Maen nhw'n dal i edrych y ffordd arall.' `Fyddan nhw ddim yn hir cyn sylwi ar y wifren pan fyddan nhw'n troi yn ôl drachefn.' `Rwyt ti'n iawn.

Teyrnasai tawelwch drachefn wrth y ffynnon.

Ymadawai felly, am fis efallai, gan grwydro ar hyd a lled amryw ffermydd eraill cyn dychwelyd drachefn ato ef ac ail- ddechrau'r ffieidd-dra.

Weithiau deuai i'r golwg fel petai awel yn ei chwythu tuag ato, yna ciliai drachefn a gadael yr awyr yn las uwchben.

'Arglwydd, ai'r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?'

Yn wir, dywed rhai o'r arbenigwyr y gall y gorchudd fod wedi ymddangos hyd ei hwyneb fwy nag unwaith yn ystod yr eonau meithion gan sychu ymaith i ymddangos drachefn.

Fe'm cyflwynodd i Tomi ac i ŵr Pen y bryn, a thra cydnabyddai ei genedl ei dyled iddo cydnabyddai yntau angen y rhai ifainc am gefnogaeth a chymorth a chalondid, megis pe bai'n barod, nage yn awyddus, i fyw drachefn yn y genhedlaeth newydd gynyrfiadau creu.

"Yr ydan ni'n ddiolchgar iawn i chi am yr ŵydd, Huw Huws," ebr y misus, ar Iol i'r gŵr hirwyntog hwnnw eistedd i lawr drachefn.

Y fath lafur ydoedd yn y dyddiau gynt i dorri'r gwair, ei hel, a'i fydylu ambell waith os oedd argoel o wlaw, yna 'tannu'r' mydylau drachefn, a'i huloga, a'r cyfan gyda phicffyrch.

A phan ddaw yn ddydd arbennig arnom fel teulu, fel diwrnod crempog heddiw, mae yno drachefn yn sefyll yn y bwlch.

Cyn pen llai na munud yr oedd ar ei ffordd drachefn.

Dyma'r bobl a gychwynnodd yr arfer o symud yr anifeiliaid ar ddechrau'r haf o'r hendref ar y bryniau isel i'r hafod ar y mynydd agored, a'u dwyn yn ôl drachefn i'r hendref erbyn y gaeaf.

Ond suddodd ei galon drachefn wrth iddo sylweddoli na wyddai Tudur ddim byd am y paent.

Heb fawr o gymell cydsyniodd i roddi'r gramaffôn ar fynd drachefn.

Yn wythnos olaf Medi yr un flwyddyn yr oeddwn ym Mangor drachefn yn sefyll arholiad arall - yr un i gael mynediad i Goleg Bala-Bangor.

Fel y ciliai'r tonnau ymgodai'r creigiau'n ymgodai'r creigiau'n dduon i wahodd yr adar arnynt, piod y mor yn gwichian yn stwrllyd ar bilidowcars mud, llonydd, anodd iawn eu gweld heblaw pan drwsient eu plu neu ysgwyd adenydd cyn setlo drachefn ar eu harsyllfeydd.

Caeodd ef drachefn, gan benderfynu llithro'n ôl i'w lesmair.

Caiff croeso'r abad ei ganmol drachefn gan Lewis Glyn Cothi yn y cywydd marwnad a ganodd iddo: bu Margam yn ysbyty a Rhufain i Gymru oll odsano medd y bardd, 'A'n pab fu Wiliam Abad'.

cyffrôdd drwyddi, trodd ei phen tuag ataf, y llygaid yn dân, a dweud yn glir glir, 'Am lefydd, nid am grefydd, am Rosgadfan.' Yna ymlonyddodd drachefn.

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.

Dychwelodd Stacey drachefn ym mis Tachwedd 1999 - 'roedd Kath a Dyff angen ei help i achub busnes y Deri.

Yn wir yr oedd y moral mor uchel am tua wythnos wedyn nes i mi ddechrau poeni sut y byddwn yn llwyddo i'w godi drachefn yn y dyfodol!

Curodd drachefn, gan fentro defnyddio'r Pregethau y tro hwn i geisio ennill sylw.

Unwaith y disgynnodd eu hawyren dringodd y ddau ddyn i mewn iddi drachefn.

Gwyddai na fyddai byth yn medru dringo i lawr i'r traeth drachefn.

Roedd y morwyr a rowliai'r casgenni'n anadlu fel ceffylau gwedd pan ddaeth y pentre a'r hofeldai gwyngalchog i'r golwg drachefn.

Ein tasg ninnau yw ailgynnull y marchogion a chyrchu'r gad drachefn.'

Gwenodd Willie'n garedig arno a diolch drachefn.

Ni all y Mail gychwyn drachefn i sylweddoli gweledigaeth y Time Table heb y grym a drefnwyd ar ei gyfer.

Tynnai at derfyn ei daith; yr oedd yn nosi drachefn.

Yn yr eglwysi drachefn y gwelid y rhan fwyaf o ddigon o gerfluniaeth y cyfnod, yn ddelwau o Grist a Mair a'r saint, yn feddfeini urddasol (yn enwedig yn y Gogledd-Ddwyrain) ac yn groglenni coed rhyfeddol o gywrain.

"Glywaist ti fi?" meddai'r bachgen drachefn ymhen eiliad, a symud yn fygythiol tuag at y llall.

'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.

Ni all beidio â dychwelyd drachefn a thrachefn at ddirgelwch a rhyfeddod Un oedd yn Dduw yn dioddef marwolaeth.

Ychydig yn ddiweddarach na phapur yr Athro W J Gruffydd fe ymddangosodd papur gan yr Athro Lewis Jones, 'The Literary Relationships of Dafydd ap Gwilym', lle pwysleisir drachefn ddylanwad y Trwbadwriaid ar Ddafydd ap Gwilym ond yma pwysleisir ef ochr yn ochr â dylanwad barddoniaeth Ladin Glasurol a barddoniaeth Ladin yr Ysgolheigion Crwydrad.

Bu'r Eglwys yn ffodus drachefn i sicrhau teulu a ddymunai barhau traddodiadau gorau'r gorffennol.

Eiliadau'n ddiweddarach daeth allan drachefn gyda'r gath ddianaf yn ei ddilyn.

Daethpwyd a'r orfodaeth i ben drachefn ddwy flynedd yn ol a chafwyd mwy o achosion oddi ar hynny.

Oherwydd ei bod wedi mynd heibio i'r wâl am oddeutu ugain llath cyn dod yn ei hôl drachefn ar yr un trywydd, y mae wedi gadael dwbwl ei thrywydd arferol ar y darn hwnnw o dir a bydd y gelyn yn cael ei gamarwain i dybio ei fod ar ei gwarthaf ac ar fin ei goddiweddyd.

a gofyn iddo am swydd yn y Sir drachefn.

Troai hi drachefn, a symudai'r trên wrth fesur araf allan o'r stesion, a chleddid y porter a'i lamp yn ei thywyllwch.

Isaac Jones, Prifathro Coleg Madryn, drachefn, yn pwysleisio mai'r ffermwyr a ddaliodd i wrteithio ac edrych ar ôl eu tir a ddaeth allan orau o ddirwasgiad mawr y dau a'r tri degau.

Ambell dro troi a throsi am hydion, ychydig funudau o gysgu a breuddwydio hiraethus ac yna dihuno drachefn a'r breuddwyd gynnau'n deffro pryderon amdanynt gartref.

Rhedeg i ben ucha'r ardd eto ac yn ôl i'r tŷ drachefn.