Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

draen

draen

Bu'r draen ddŵr fel cydnabod teithiol, a phobol yn holi amdani cyn iddi gyrraedd ac yn dweud, 'Ma hi yn y fan a'r fan - fydd hi ddim yn hir'.

'Ni cherddaf....Ni chwarddaf' yn dyfnhau negyddiaeth y nos i'r bardd yn ddwys iawn, a hynny'n cael ei datrys braidd yn gynganeddus mewn bodlonrwydd anuniongyrchol 'draen...heb wrid y rhos,' 'gweaf....gwyw'.

Os nad oes tanciau dwr parhaol ar fwrdd eich carafan (a dim ond yn y rhai mwyaf a drutaf y mae'r rheini), yna bydd raid i chi ymuno a gweddill y werin i gario'ch dwr iddi, a chario'r dwr wast yn ol i'r draen pwrpasol.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.

Agorwyd dau draen sylweddol i draenio wyneb y gors, yn gyfochr â'r brif afon ond y tu allan i'w hargloddiau Rhoddwyd yr enw Traen Menai a Thraen Malltraeth arnynt; ond enw pobl yr ardal arnynt y rhan fynychaf yw Yr Afon Fain.