Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

draethu

draethu

Yn hyn o draethu sonnir am y gorseddau a gynhaliwyd gan y teyrngarwyr ymroddgar hyn, eu swyddogaeth mewn eisteddfodau lleol, taleithiol a chenedlaethol, a'u rhan yn neffroad diwylliannol ein cenedl ddifreintiedig.

Ar ei ddychweliad i Fangor gofynnwyd i'r darlithydd newydd draethu ar amryw bynciau, gan gynnwys Gramadeg Hanesyddol, y chwedlau canoloesol a pheth o lenyddiaeth Oes Victoria.

A dyma, gyda llaw, brawf petai angen un fod Llanfaches a Mynydd Islwyn yn magu pregethwyr a allai draethu yn Gymraeg.

Yn ogystal a hynny, roedd Syr Thomas yn gwmniwr gyda'r mwynaf ei galon a'r gwreiddiolaf ei hiwmor.Fel Tom Parry yr adweinid ef ym Mangor mewn cyfnod cynharach, ag ef oedd ffefryn ddarlithydd y dosbarth Cymraeg.Roedd ganddo bresenoldeb a phersonoliaeth oedd yn llwyr arbennig, heb son am ddawn i draethu'n feistraidd a chyson ddiddorol.

Fel pe bai wedi ei ryddhau am ychydig o hualau'r drefn Sofietaidd byddai Mr Gorbachev yn gwneud yn fawr o'i gyfle i draethu gerbron torf enfawr o ohebwyr.

Mae hyn yn gyfle i Saunders Lewis draethu ar holl hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan ei harchwilio'n banoramig unwaith eto.

Beth bynnag am hynny, roedd yn gymeriad ffraeth a gwreiddiol ei ymadrodd a fyddai'n cynhesu ati o ddifri pan y synhwyrai fod rhai o leiaf o'i wrandawyr yn mwynhau'r dull anghonfensiynol o draethu a'u bod yn awchu am ragor.

Awdl alegorïol yw hon, sef awdl sy'n defnyddio chwedloniaeth i draethu neges gyfoes.