Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drafodaeth

drafodaeth

Mae'r drafodaeth hyd yma wedi ei chanoli ar yr is- ffurfiant, a symudir yn awr at drafodaeth o'r newidiadau a ddigwyddodd yn yr uwch-ffurfiant yn sg^il y datblygiadau economaidd.

(ch)Ceisiadau Newydd Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r ceisiadau canlynol i ddatblygu:- PENDERFYNWYD (ii) Awdurdodi'r Prif Swyddog Cynllunio i benderfynu'r ceisiadau canlynol fel a nodir gyda'r amodau priodol:- Cynghorydd IW Jones am gael cofnodi nad oedd yn dymuno cymryd rhan yn y drafodaeth).

Taith droellog iawn oedd hi a chredai llawer un a gyfrannodd at y drafodaeth ei fod yn ffyddlon i'r argyhoeddiadau Cristionogol.

Trwy gyplysu ymchwil addysgol, adfyfyrio ar ran yr athro, arferion da athrawon neu ysgolion eraill a hybu'r syniad mai chwilio am beth allai fod, yw nod HMS y cam naturiol nesaf yw i'r athro dreialu'r syniadau a'r dulliau a fu dan drafodaeth.

Mae's drafodaeth yn parhau..

Nid oedd cyfaddawd yn berthnasol i'r drafodaeth, gan nad oedd ffordd ganol rhwng byw a marw.

Yn ddiamau, bydd y cam llwyddiannus hwn ymlaen, yn y broses hir o adeiladu ffordd newydd, yn ail ddechrau'r drafodaeth dros ac yn erbyn y prosiect.

Yr oedd yn drafodaeth nerthol a chofiadwy ac fe'i hatgynhyrchir yn y gyfrol hon.

(Datganwyd diddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd RG Hughes ac ymneilltuodd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

Lle bo'r safonau'n anfoddhaol, bydd disgyblion yn ddihyder wrth siarad ac yn methu cyfathrebu'n effeithiol; dealltwriaeth gyfyngedig sydd ganddynt o'r hyn a glywant ac ni allant gynnal sgwrs estynedig; cyfyngedig yw'r rhan y maent yn ei chwarae mewn cyflwyniadau a thameidiog yw eu cyfraniadau at drafodaeth grŵp a dosbarth.

Mae'r holl elfennau yr oedd Y Gohebydd yn sôn amdanyn nhw i'w gweld yn y casgliad yma o ysgrifau gan newyddiadurwyr a ffotograffwyr ond, fel crwbanod yn cario'u cartrefi ar eu cefnau, mae llawer o'r drafodaeth ynghylch Cymreictod, neu ddiffyg Cymreictod, y gwaith.

Wrth ymdrin â'r Llyfrau Gleision, rhaid cofio i'r drafodaeth ar y pryd ddigwydd yng nghyd-destun y ddadl ynglŷn â grantiau i addysg.

Er cysoni'r defnydd o dermau yn y drafodaeth sy'n dilyn, yn yr adroddiad hwn crynhoir y broses i ddau gam sylfaenol:

Yn y drafodaeth a ddaeth wedyn daeth hi'n amlwg fod y Gymdeithas wedi bod yn eitha' llwyddiannus yn nhermau adeiladu cysylltiadau o fewn y Cynulliad (er enghraifft gyda gweision suful) ac o safbwynt dylanwadu ar y corff ei hun.

O ganlyniad i ddatganoli cafodd y rhaglen wleidyddol Maniffesto ei hymestyn i awr o hyd o fis Medi a pharhaodd y drafodaeth ar faterion llosg yn y gyfres hynod lwyddiannus, Pawb ai Farn, a oedd yn cynnwys cyfraniadau e-bost byw gan aelodau o'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Tra oedd yr hyn a gafodd ei alw'n 'drafodaeth lloches' yn mynd rhagddi yn y Bundestag, parhau a wnaeth ymosodiadau'r Neo-Natsi%aid.

Sôn am y drafodaeth rhwng Duw a'r enaid y mae Cradoc a'i amcan yw dangos cryfder aruthrol y rhwymyn cariad rhwng yr enaid a Duw.

Mae gwleidyddion Prydeinig wedi arfer â chael 'Hansard' y diwrnod ar ôl y drafodaeth.

Mae'r drafodaeth am ffederaliaeth yn rhan hanfodol o'r drafodaeth am gynnwys rhagor o wledydd yn y Gymuned Ewropeaidd.

Croesawn ymateb ac edrychwn ymlaen at drafodaeth ar y ddogfen hon.

Cynrychiolodd y drafodaeth ynglyn â'r Six O'Clock News y ffordd agored a chyfrifol y mae'r BBC yn ei gyfanrwydd yn cydnabod y newidiadau sy'n rhaid eu gwneud wrth gyflwyno'r newyddion.

Hyd y gwn, ni chyhoeddodd Gruffydd erioed unrhyw drafodaeth benodol ar y cwestiwn 'beth yw hanfod bodolaeth cenedl?' , cwestiwn a ddaeth yn amlwg iawn yng Nghymru yn y chwedegau.

Roedd Rheinallt Dafy dd prif was ei fam wedi ymuno a hi a gallai Richard glywed y ddau 'n siarad am y cynlluniau ynglyn a'r tir a gwella'r ty ond er ei fod mor agos atynt ni chymerodd yr un o'r ddau sylw ohono na cheisio ei gael i ymuno yn y drafodaeth.

Y sbardun i'r drafodaeth yng Nghanada oedd fod un o brif nofelwyr y wlad, Saul Bellow, nid yn unig wedi cyhoeddi nofel newydd ond hefyd wedi dod yn dad unwaith eto ac yntaun 83 oed.

Penderfynwyd, efallai am mai Awdudrdod Datblygu Cymru oedd un o brif noddwyr y prosiect, hepgor unrhyw drafodaeth ar yr angen am Senedd a gadael hynny i adroddiad arall yn y dyfodol.

Cewch drafodaeth ar y gwahanol gynigion a chyflwyniad i aelodau newydd y Senedd rhwng cloriau'r rhifyn hwn o'r Tafod. Un peth sydd yn codi yn syth yw'r penderfyniad i newid dyddiad y Cyf Cyff i'r Gwanwyn.

Gwrthdaro rhwng Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi wrth roi'r drafodaeth am annibyniaeth i Gymru a'r Alban o'r neilltu.

O ganlyniad i ddatganoli cafodd y rhaglen wleidyddol Maniffesto ei hymestyn i awr o hyd o fis Medi a pharhaodd y drafodaeth ar faterion llosg yn y gyfres hynod lwyddiannus, Pawb a'i Farn, a oedd yn cynnwys cyfraniadau e-bost byw gan aelodau o'r cyhoedd am y tro cyntaf.

(iii)Caniatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais amlinellol - newid defnydd tir gwag ar gyfer diwydiant Cais llawn - arwydd wedi ei oleuo'n allanol Cais llawn - estyniad i falcon Cais amlinellol - tŷ annedd Cais llawn - manylion mynedfa a ffyrdd ystad, ac ail-leoli cyffordd ffordd gyhoeddus ar gyfer parc bwyd/amaeth gyda lladd-dŷ (Datganwyd diddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd JR Jones ac ymneilltuodd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

Fodd bynnag, buan yr hoeliwyd sylw'r llywodraeth a'r prif bleidiau gwleidyddol ar y drafodaeth ynghylch y ddeddf fewnfudo newydd y bwriedid ei phasio.

Gweld y drafodaeth am ffederaliaeth Ewrop yn 'beth iach' y mae'r Prif Weinidog Lionel Jospin, llywydd y Blaid Sosialaidd.

Allan o'r drafodaeth hon fe gafwyd awgrym ar sut i ail-drefnu'r Gymdeithas er mwyn i ni allu gweithredu yn fwy effeithiol yn yr ymgyrch dros ddeddf iaith.

Yn sgîl y drafodaeth ynglŷn â Changen Llanllechid, mynegodd cynrychiolwyr o Gangen Bontnewydd eu bod hwythau wedi methu ag ethol swyddogion yn eu cyfarfod cyffredinol.

Efallai y caniateir ar dudalennau'r Traethodydd gyfeiriad at un pwnc, sef y drafodaeth ar y Diwygiad Methodistaidd ar dd.

Creodd y bryddest hon gryn drafodaeth oherwydd ei bod yn cyfleu safbwynt gwahanol i'r safbwynt a goleddai gwrthwynebwyr y mewnfudo i gefn gwlad Cymru a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.

O ganlyniad i'r drafodaeth honno, lluniwyd y cynnig cyfaddawd, nad wyf mwyach yn cofio'i berwyl, mwy na'i fod yn gadael y ffordd yn rhydd i unrhyw aelod o'r Blaid arddel y syniadau economaidd a fynnai, er bod y Blaid yn datblygu polisi economaidd arbennig.

Ond unwaith yn unig y clywais i drafodaeth gan seiciatrydd ar unrhyw fath o chwedl Gymreig neu Geltaidd, a hynny ar chwedl Llyn y Fan Fach.

Ofer fuasai ail-adrodd y wybodaeth yma ond mae'n bwysig rhoi braslun o'r prif nodweddion er mwyn hwyluso'r drafodaeth o'r berthynas rhyngddynt.

Dylid darllen y drafodaeth hon ar bob cyfrif, yn enwedig oherwydd y manylu sydd ynddi ar hanes llunio'r pennill cyntaf.

Arwyddocâd y drafodaeth hon mewn colofn newyddiadurol yw ei bod yn bwrw peth goleuni ar seicoleg y gwaith o greu telyneg, ond nid ymhelaethaf ar hynny yma.

Mae llawer o'r datblygiadau hyn, megis ffrwythloni embryos y tu allan i'r corff dynol, wedi arwain at drafodaeth eang.

Gwaith arbennig yr adeiladydd llongau,Donald McKay, ac athrylith y cynllunydd, John Griffith, a greodd y cliperi cyflym gyda'u llinellau hyfryd a'u mastiau uchel yn llawn hwyliau, llongau megis y Lightning a'r Flying Cloud ac yn y bennod nesaf ceir ychydig o drafodaeth am y cysylltiad Cymreig a'r llongau enwog hyn.

Yn gyntaf y mae'n diweddaru'r drafodaeth ar Morgan Llwyd gan gasglu at ei gilydd yr amrywiol farnau sydd wedi eu mynegi hyd yma am natur ac arwyddocâd ei waith.

Yn wir, bu'r dirgelwch yn destun cryn drafodaeth yn y pentref rai blynyddoedd ynghynt, yn fuan wedi i Morfudd ymddangos am y tro cyntaf.

Awgryma'r pwyslais hwn ar arbenigrwydd Israel, sy'n seiliedig ar y ffaith fod Duw trwy ei hethol yn ei gosod ar wahân i'r holl genhedloedd eraill ac nad ydyw ychwaith yn berthnasol i drafodaeth ar genedligrwydd fel y cyfryw.

Cyn mynd ymlaen i drafod y datblygiad hanesyddol, fodd bynnag, mae'n ofynnol yn gyntaf gosod y ddadl o fewn ei chyd-destun theoretaidd, er mwyn gosod allan yn glir y cysyniadau gwaelodol sy'n sail i'r drafodaeth.

Yn ystod y drafodaeth byrdwn cyfraniad rhai o'r aelodau oedd adrodd hanesion a dyfalu am hynt a helynt yr iaith yn eu hardaloedd eu hunain.

A hithau'n ysgolhaig eang ei gwybodaeth, diau y gall y gyfrol hon fod yn fan cychwyn trafodaeth ddwys mewn colegau ac ymhlith ysgolheigion - o'u safbwynt hwy bydd yn ychwanegiad buddiol at - ac yn grynhoad gwerthfawr o'r drafodaeth a fu hyd yn hyn.

Yn sgil y rhain fe ddaw gweithiau eraill yn y ddwy iaith i mewn i'r drafodaeth.

Yn swyddogol, awr o ddiffyg peirianyddol oedd yr awr honno, ond y peth a erys yn y cof yw bod cwmni o wŷr y felin yn trafod cwestiwn creadigaeth, a Phil yn rhoi arweiniad i'r drafodaeth.

Ar ôl deffro i frecwast blasus diolch i Elin sy'n gweithio yn y ganolfan, (a chlirio ychydig ar effaith y Pino-shite), parhawyd â'r drafodaeth am ddeddf iaith ar y bore Sadwrn.

Ar ol cychwyn y drafodaeth, fe waeddodd Ifan o'r llawr, 'Wn i ddim i be rwyt ti'n cyboli hefo'r mater sy ger bron,Gruff.

Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn 'rhy wleidyddol'. Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.

Yn ail, gwna ymdrech dda i gysylltu'r drafodaeth ar Llwyd â'r gwaith ysgolheigaidd mewn meysydd eraill sy'n debygol o'n helpu i fantoli'n gywirach arbenigrwydd ei berson a'i gynnyrch.

Trafod y Gosodiadau a'r Dulliau gwarantedig, a hefyd Dulliau y Clerwyr yng nghyfnod y dirywiad, fel y soniwyd yn ddiweddar, a bydd yn drafodaeth agored, a rhyddid i bawb sôn am un neu ragor o'r cyfryw ddulliau.

Y mae dadansoddi'r cysylltiadau rhwng ffydd a chymdeithas, diwydiant a diwylliant, yn ddigon cymhleth heb i'r drafodaeth gael ei chloffi gan athroniaeth amheus.

DYMA ni bellach wedi dirwyn i ben y drafodaeth ar gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.