Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drain

drain

Y darluniad cywiraf a fedrwn roddi o'r golygfeydd ar y daith hon ydyw disgrifiad a roddir gan Solomon o faes a welodd ef yn rhywle: `Wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr (goed) a syrthiasai i lawr; y palasau ydynt wrthodedig - yr amddiffynfeydd ydynt yn ogofeydd, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa diadelloedd.'

Cysurwn fy hun er mor ddiweddar y tymor fod y blodau yn araf yn dod ar y drain duon.

Nid aethai neb i'r drafferth i ymwthio drwy'r drain a'r danadl poethion i fynd ar ei gyfyl.

"Dacw fo Enoc yn disgwyl amdano fo." "Mae o'n nerfa i gyd erbyn hyn, y creadur, 'roedd o ar biga drain drwy'r pnawn." "Oes arno'i ofn o?" "Na, nid hynny.

Camodd drwy fwlch yn y clawdd drain yn gap stabal i gyd, a hen sach dros ei war.

Ni sylwasai Gemp arno'n codi fel cysgod o fôn y llwyn drain, y peth cyntaf a wybu, meddid, oedd gafael Vatilan am ei wddf.

Treuliodd y ddwy y pnawn yn edrych o gwmpas y siopau, Llio ar bigau'r drain eisiau mynd adre i bori yn y llyfrau a Mair ofn am ei bywyd i rywun eu gweld.

Ni ellid gweld yr awyr gan flodau'r drain.

Wyddoch chi beth, gyfeillion, tydwi ddim hyd yn oed yn ei feio fo chwaith - wel, toeddwn i heb arfer hefo lladron yr adeg honno, yn nago'n, yn enwedig lladron yn codi o fôn llwyn drain i ymosod arnaf ac yn fy mraw mi wnes i gadw braidd gormod o sūn.

Gosodwyd carped i'r merched ac eisteddasant yn goesgroes arno, yr ochr draw i'r tân drain a phrysgwydd lle'r eisteddai'r dynion wrth eu bwyd.

Oherwydd oni chafodd Vatilan unwaith ffordd drwy'r drain at ochr hen elyn?

Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.

Mi fuo yno am flynyddoedd, y pwll tar, a phan oedd hi'n boeth, roedd yna gannoedd o swigod ar ei wynab o, ac mi fyddan ni'n eu clecian nhw hefo piga drain." "Ffendiodd rhywun pwy wnaeth?" "Naddo.

Roedd yna doman o gasgaenni colta/ r wrth Drain Duon a rheiny'n llawn.

Hyd fyth y bydd gwacter yng Nglangors-fach, a'r aelwyd a fydd adfail yng Nglangors-fach; mieri ac ysgall a drain lle bu mawredd a'r llwybrau yn lleoedd y dylluan.

Pe byddech am greu uffern i rywun, byddain amhosib rhagori ar yr awr a dreulais i yn Y Fenni - achos hyd yn oed pan oedd saib yr oeddech ar bigaur drain yn disgwyl i'r uchelseinydd ffrwydro eto gydai negeseuon diddiwedd.

Roedd hi wedi bod mor siŵr y byddai Emyr yno ar bigau'r drain yn disgwyl iddi hi un ai ffonio neu ddychwelyd.