Nid ystyrir y Gymraeg mwyach yn dramgwydd politicaidd.
Ni ellid derbyn Beibl Genefa fel y fersiwn swyddogol, ond 'roedd wedi dwyn diffygion y Beibl Mawr i'r amlwg; penderfynwyd, gan hynny, ar wneud fersiwn diwygiedig arall a fyddai'n rhydd o dramgwydd Beibl Genefa.
'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.
Nid oedd yn anodd i'r darllenydd craff gyferbynnu'r estheteg a barodd dramgwydd i Gruffydd yn ei adolygiad a 'Gwrthryfel ac Adwaith' yn yr un rhifyn o'r llenor, lle y traethwyd y gred mewn 'Gwrthryfel cynhyddol yn erbyn awdurdod....twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn':