Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dramor

dramor

Mae Mr Garel-Jones bellach yn Weinidog Gwladol yn nhîm Douglas Hurd yn y Swyddfa Dramor ac yn dderbyniol gan bawb.

Yn yr hen ysgolion gramadeg, yr oedd dysgu iaith dramor yn rhan o'r cwricwlwm craidd ac yn bwnc a gai ei astudio gan bawb bron hyd at ddiwedd y bumed flwyddyn.

Yn ystod y blynyddoedd cyn hynny, hyd yn oed, roedd The Times yn cael gwybodaeth well na'r llywodraeth ei hun ac fe gyhoeddodd y papur newyddion am frwydr Trafalgar ddeuddydd cyfan cyn i'r Swyddfa Dramor gael gwybod dim.

CYHOEDDI CYMRAEG DRAMOR: Weithiau gellid dod ar draws cyhoeddi papurau a chylchgronau Cymreig y tu allan i Gymru - yn Llundain a Lerpwl, er enghraifft, ac ymhellach o lawer yn America ac Awstralia.

Doedd hyn ddim am ennill ffrindiau i ni yn y Swyddfa Dramor, ond pa ots?

Bu'n gweithio ac yn arddangos lawer iawn dramor hefyd, mewn llefydd megis Galicia, Rwsia, Tsiecoslofacia a'r Ffindir, lle daeth ei grþp yn bedwerydd yn y byd mewn cystadleuaeth cerflunio eira.

Roedd brwdfrydedd mawr ymhlith y merched, yn naturiol, ac Aurona yn eu plith, gan mai dyma'r tro cynta iddi hi a rhai o'r merched eraill gael cyfle i deithio i wlad dramor.

Bu cwynion diweddar am feddygon o dramor yn methu â mynegi eu hunain yn glir am nad yw Saesneg ddigon da, yn fodd i roi gwedd o barchusrwydd i'r hiliaeth honno syn hepian o fewn llawer o bobl.

Mae'r pleidleisiau o dramor bellach wedi'u cyfri ac wedi rhoi ymgeisydd y Gweriniaethwyr George W Bush ar y blaen o 930 o bleidleisiau.

Yn aml, cynhwysent newyddion y dydd, boed genedlaethol neu dramor, ynghyd a sylwebaeth ar faterion y dydd, megis caethwasiaeth, dirwest, ac yn y blaen.

Mae un sector o'r diwydiant yn darparu ar gyfer y 'Farchnad Dwristiaid', gan lunio tirluniau traddodiadol sy'n ail-wampio technegau a delweddau o dramor ac o'r gorffennol...

Mae Ben, Mererid a Karen yn mynd ar ôl newyddion ymhob rhan o Gymru ac ambell waith bydd y tîm yn mentro dramor.

Mae problemau fel yna'n waeth ac yn well ar yr un pryd wrth weithio mewn gwlad dramor.

Mae ambell broblem yn gyfarwydd i newyddiadurwyr a gweithwyr y cyfryngau ymhobman ond eu bod yn cael eu gwneud yn amlycach trwy fod mewn gwlad dramor.

Pan oeddwn yn wyth a naw oed awn o gylch Nant-y-moel gyda cherdyn i gasglu at y genhadaeth dramor.

Yn wir, mae yna gryn anniddigrwydd fod pobl dramor yn cael y fath flaenoriaeth.

Y mae tanysgrifiad blwyddyn dramor yn £59.

Mae Robert Graves yn dweud pa mor unig y gallwch chi fod os nad ydach chi'n deall yr iaith mewn gwlad dramor, ond, i griw newyddion teledu, mae'r unigrwydd yna'n gallu bod yn gyfforddus unig, achos dydych chi ddim yn uniaethu'ch hunan â'r sefyllfa.

Mae rhai o'r peiriannau hefyd wedi cael eu gwerthu dramor.

Yn fras, rhaid symud y pwyslais oddi wrth fuddsoddi o'r tu allan i fuddsoddi cynhenid, a sicrhau bod hynny o fuddsoddi o dramor a ddenir o well ansawdd na'r swyddi cyflog isel, sgiliau rhoi-pethau-at-ei-gilydd a welsom yn ystod yr wythdegau.

Fel aelod o dîm y Swyddfa Dramor, mae Mr Garel-Jones yn ei chanol hi eto y tu ôl i'r llenni.

Plwyfol, yn ystyr orau'r gair, yw'r newyddion a geir ynddynt ond yn aml y maent yn ffenestr i'r byd i'r graddau eu bod yn cynnwys adroddiadau gan drigolion lleol, neu am drigolion lleol sydd wedi ymweld a rhannau dieithr o'r byd, neu sy'n byw dramor.

Yn 1998 y daeth Jason i fyw i Gwmderi a hynny ar ôl cyfnod o weithio dramor.

Rhoddir lle anrhydeddus i'r genhadaeth dramor a'r gofal sy'n cael ei gynnig i'r tlodion gan asiantaethau dyngarol a Christnogol fel Tearfund.

Y Bwrdd Croeso yn cael yr hawl i farchnata Cymru dramor.

Roedd y system yn trefnu i grynswth disgyblion yr ysgolion fethu â dysgu iaith dramor!

Gofynnwyd am arian i'r Cyngor Ysgolion i ymgymryd â'r gwaith a sefydlwyd prosiect ymchwil bychan i weld a oedd yna newid agwedd tuag at ddysgu iaith dramor ymysg disgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau nodau graddedig.

Roeddwn i, ar fy nhaith dramor gynta' erioed fel gohebydd, yn rhan ohoni.

Dau achwyniad arbennig yn erbyn y drefn yma oedd ei bod yn gwneud yr economi mewnol yn israddol i gyflwr y fantolen allanol a lefel y gyfradd ac, yn ail, fod unrhyw gyfundrefn sefydlog yn debyg o fagu rhyw grynofa afiach o hapfasnachu yn y farchnad gyfnewid dramor.

ydych chi'n pori llawer mewn llenyddiaeth dramor, ac a yw'r llenyddiaeth honno'n gadael ei hôl arnoch?

Un tro, mi wnes i stori dramor yng Nghymru - yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Daeth atebion i law oddi wrth y Gwir Anrhydeddus Syr Wyn Roberts a Swyddfa Dramor y Llywodraeth yn dilyn ein gwrthwynebiad i Ryfel y Culfor.

Gwta awr a hanner y tu draw i frys soffistigedig Dubai mae Fujairah yn ardal boblogaidd gydag ymwelwyr o Ddubai ei hun ac - yn fwy aml y dyddiau yma - o dramor hefyd.