Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drannoeth

drannoeth

Gofynnwyd drannoeth i feddyg y teulu i alw ac fe welodd hwnnw arwyddion o'r Eryrod ar fy nghefn.

Doed o hyd i ol ei traed her creigiau Trwyn yr Wylfa drannoeth, a darganfuwyd ychydig o datws yma ac acw, ond ni welwyd byth mo'i chorff.Dyna un rheswm dros i Mam gasau'r mor.

Wrth iddi fynd i'r llys drannoeth teimlai Rhian yn falch nad oedd hi ddim wedi sôn wrth Lewis am ei thaith i Lanfairfechan.

Prin yr âi i'w wely heb ei rannu ag Eleri ei wraig, a rhannu'r gair neu'r tro ymadrodd gyda ni ei gydweithwyr amser coffi drannoeth.

Drannoeth, roedd mewn gwersyll i garcharorion rhyfel.

Dywedodd fy mam wrthyf drannoeth fod rhyw dderyn wedi dweud wrthi am y digwyddiad.Euthum i ddawns yn y Cei unwaith.Roedd fy ffrind, Twm Fowey House (y Dr Thomas Gwilym Jones, un o benaethiaid Lever Brothers Port Sunlight wedyn) yn fy nghynorthwyo i smyglo fy siwt orau o'r ty wrth i mi ei thaflu o ffenestr y garet i lawr ato ac yntau yn sefyll ar yr allt wrth dalcen y ty.

Drannoeth ar ôl glanio yn Dubai, daeth Salim ataf gan ddweud wrthyf ei fod am ddangos golygfa ryfedd imi.

Trwy'r dydd drannoeth bu'n rhaid i Dai Mandri ddal i gerdded, a'i ddwylo ynghlwm.

Drannoeth dechreuwyd terfysgu yng Nghaerdydd, gyda rhagfarnau gwrth-Tseinfaidd yn dod i'r wyneb.

Drannoeth, fyddai neb yn rhy awyddus i chwarae rygbi.

"'Roedd hi'n ddiwrnod penblwydd fy chwaer drannoeth.

Afraid yw crybwyll ei fod yn brydlon wrth y bwrdd brecwast drannoeth, ond yn rhy eiddgar a chynhyrfus i fwyta llawer.

Arhosodd Edward adref o'i waith drannoeth.

Bore drannoeth fe gyfyd--gveld os yw i Iwyddo, nad ar beth felly, ond drwy w~nebu bywsd a gweithio'n galed.

Roedd y bwrdd wedi ei osod yn barod ar gyfer brecwast drannoeth, bowliau bara llaeth wyneb i wared mewn rhyw wyth neu naw o lefydd, ar wahân i lle'r oedd Dic yn eistedd, y lamp baraffin ar y wal uwch ei ben wedi ei throi i lawr rhag iddi fygu yn y drafft.) "Roedd hi'n bert iawn, gwraig y ffarmwr yma.

Oherwydd mae'r ddelwedd hon yn siard cyfrolau am gyflwr presennol un o hen gymunedau'r glo drannoeth dyddiau llewyrch un o'r diwydiannau trymion cynhaliol.

Pan ddaeth Mary adre'r noson honno ar ôl bod yng nghwmni Fred, gyrrodd Ali hi o'r tŷ, ond addawodd y câi weld y plant drannoeth.

Pan aeth i dacluso'i ystafell fore drannoeth ar ôl ei noson gyntaf cafodd fraw o weld bod y llieiniau a roesai iddo yn farciau duon i gyd, fel pe bai rhywun wedi eu llusgo trwy huddygl.

Mi edrychaf ar ôl fy hun.' Ond 'run fath ag amryw o rai eraill mae'n bosib ei fod wedi cael un dros yr wyth, oherwydd drannoeth y daeth Hugh adre'.

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Ond drannoeth, mi es i brofedigaeth - mi gollais fy mhysan, - a hynny yn y dre, lle y basach chi'n meddwl y baswn i ei hangan hi fwya.

Gwelais y trapiwr nos drannoeth.

Roedd eisiau i bawb fynd adref a chofio dychwelyd drannoeth, ac yn y cyfamser gofynnodd iddynt i gyd, bob wan jac, i weddio ar Allah i roi nerth o'r newydd i'r reslwyr lleol.

Un hwyrnos, pan oedd Owen Owens yn dod i derfyn yr un stori, daeth fy mam a Miss Aster i mewn i'r gegin, a bu distawrwydd parchus tra gofynnodd fy mam i mi a awn i hebrwng Miss Aster adref, a dod 'nôl â rhyw waith gwnio roedd ei angen arnom drannoeth.

"Codwch!" sibrydodd gwraig y bwthyn wrtho fore drannoeth.

Drannoeth dechreuodd y fforiwr ar ei daith i ddod o hyd i'r ogof fygythiol hon.

Drannoeth, gallwch ddychmygu syndod y bobl pan godasant a gweld y car yn ei ôl wrth ochr y tū lle'r arferai fod.

Doedd e ddim wedi edrych ymlaen at drannoeth gymaint ers amser hir, a'r noson honno aeth i'r gwely yn teimlo'n hapus.

Fe'u rhoed i hongian yn y granar ond drannoeth yr oedd y lle'n drewi yn y modd mwyaf dychrynllyd a bu'n rhaid eu claddu ar fyrder.

Roedd hi bron yn amser cinio ar y plant yn codi drannoeth.

Byddai'n siwr o fagu plwc i'w ffonio drannoeth.

Euthum i'w weld fore drannoeth, fodd bynnag, a dyna lle'r oedd yn eistedd ar erchwyn ei wely newydd a golwg ddiflas iawn arno.

Drannoeth yr ysbeilio a'r difa daw'r adfer a'r ail-godi.

Drannoeth, wedi i'r perygl gilio, aeth yr hen ŵr am dro at y ffynnon unwaith eto, gan ddal i bwyso'n drwm ar ei bastwn.

Gwnaeth y Capten yr un peth ond drannoeth nid oedd cwch y mêt i'w weld.

Fore drannoeth pan ddaeth y gŵr pwysig i lawr i frecwast cafodd fy mam ei rhyddhau o'i blinder, neu o leiaf roedd hi bron yn siwr.

deallodd drannoeth fod y gweithiwr telegraff yn lyons dan orchymyn i ddaearu'r wifren hanner ffordd trwy'r arbrawf, i ddangos i'r comisiwn nad oedd twyll yn bod ; byddai i'r negesau fod wedi parhau yn ddidor ddangos mai ffug oedd y cwbl, ac fod gan hughes gyfaill cyfagos yn cymeryd arno fod yn delegraffydd yn lyons bell.

Os gweithiai ei thric hi, byddai bob brwsh a chlwt yn segur yn yr Hen Reithordy drannoeth.

Wedi'r cwbl, yr oedd y dyn yn adnabyddus drwy Gymru gyfan, a byddai hanes ei gwymp oddi wrth ras ymhob papur drannoeth.

Os felly cymryd stafell mewn gwesty a throi'n ôl drannoeth.