Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dras

dras

O dras Ariaidd, mae eu hiaith yn perthyn i Farsi, sef iaith Indo-Ewropeaidd Iran - ac mae ganddyn nhw ddwy brif dafodiaith.

'Roedd y pwyslais ar hynafolrwydd yr iaith yn rhan o gred ehangach, sef y gred fod i'r Cymry dras anrhydeddus, gogoneddus yn wir, tras y gellid ei olrhain yn ol i hanes Brutus yn dianc o Gaerdroea; 'ni, kenedlaeth y Bryttaniaid o oruchel fonedd Troia', yng ngeiriau'r croniclwr Ifan Llwyd ap Dafydd.

Yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf roedd tri o arweinyddion y prif bleidiau gwleidyddol Prydeinig o dras Cymreig, a'r pedwerydd yn Albanwr.

Mae'n amlwg nad oedd bod o dras y Monwysion yn fawr o gymorth iddo.

Eglwys Saesneg oedd ym Mwcle, ac ymhlith y gynulleidfa yr oedd y ferch ifanc o dras Albanaidd, Mary Taylor, a ddaeth ymhen ychydig flynyddoedd yn wraig iddo.

Credai'n ffyddiog y byddai'r Tywysog Albert yn ymroi i ddysgu 'iaith Gomer', fel y gweddai i'r sawl a hanai o dras Llywelyn Fawr.

Yn yr Almaen, mae ymosodiadau'r 'Neo-Natsi%aid' ar bobl o dras estron yn parhau, ond cau eu llygaid ar y broblem y mae'r llywodraeth fel y rhan fwyaf o Almaenwyr, yn ôl MARION L™FFLER o Berlin.

Ceir enghraifft o hynny yn ymdrech rodresgar Syr John i arddangos rhagoriaeth ei dras.

Mudiad yw hwn, yn ymgorffori Undeb y Cymry ar Wasgar a sefydlwyd yn 1948, sy'n creu a chynnal dolen gydiol rhwng Cymru a phobl o drâs Gymreig a chyfeillion Cymru ym mhedwar ban y byd.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Mae hynny'n bwysig am fod ymwybyddiaeth o dras (nid trwy waed o angenrheidrwydd) yn debyg o gynysgaeddu pobl a theimlad o gyfrifoldeb.

Telynores sydd o dras yr hen delynorion Cymreig.

Williams Parry yn ei soned iddo, gellir ystyried chwechawd clo honno yn ddisgrifiad cyffredinol o'r dyn: Hen arglwydd ansoddeiriau a thwysog iaith, Pa fath wyt ti, neu o ba gymysg dras Pan yw pob dychan a phob can o'th waith Yn llawn o ryfel ac yn llyn o ras, O saint a phariseaid, moelni a moeth Llesmeiriol ymchwydd ac uniondra noeth?

Pam y priododd Huwcyn, Ffridd Ucha, â Saesnes o dras?

Gwr o dras uchelwrol oedd Henry Rowland ac y mae'r ewyllys yn ein helpu i werthfawrogi sawl agwedd ar fywyd ac ymwybod cymdeithasol gwr o'r fath.

Ymsefydlodd rhai o'r Sbaenwyr yno a dyna sut y ceir Llydawyr o dras yn dwyn enwau fel Perez, Kourtez ac ati,' Sbaen yw fframwaith nofel fer hunangofiannol Youenn Drezen, Sizhun ar Breur Artuo (Wythnos y Brawd Arthur).

Gwyr o dras a gafodd gyfle i gael addysg safonol yw arweinwyr naturiol y gymdeithas felly o dan eu dylanwad llesol hwy - hynny yw, Edward Vaughan wedi ei dymheru a'i foderneiddio ar lun Harri y mae dyfodol i'r proletariat.

Fodd bynnag, mae unrhyw rai sy'n cyrraedd o Ddwyrain Ewrop ac sy'n gallu profi eu bod o dras Almaenig - ni waeth pa mor bell yn ôl - yn cael eu derbyn yn ddinasyddion llawn yn gwbl ddidrafferth.

Bu graddau lawer o ymddieithrio ac ymlynu, a chwaraeodd y Goron Seisnig, a gawsai ei chipio gan un o dras Gymreig, ran ynddynt oll.

Yn wir, yr oedd ei thad, Brychan Brycheiniog, o dras Wyddelig.

Er pan glywsai am fwriad John Edmunds i ddathlu sefydlu hunan-lywodraeth yn yr harbwr, ni buasai taw ar ei fremian, na wyddai'r cynghorydd y peth cyntaf am fywyd môr, mai dyn tir oedd o, o dras a diddordeb, mai esgus i gael ei weld oedd ei glochdar am gael dathliad yn yr harbwr am nad oedd sail i ddathlu dim arall yn y Porth.