Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drawiadol

drawiadol

Sylweddolodd Lingen fod tebygrwydd mawr rhwng yr ysgolion o dan adain y gweithiau diwydiannol newydd a'r hen ysgolion plwyf, gan fod y gweithiau, fel y sylwodd mewn cymhariaeth drawiadol, wedi cymryd lle'r hen faenor gynt.

Mae ansawdd naturiol y cysylltiad ê Lloegr ym Manawydan, ac i raddau llai ym Mranwen, yn drawiadol.

O ystyried fod Lewis Glyn Cothi'n fardd nodedig o dduwiol, mae absenoldeb unrhyw sylw ynghylch tynged enaid ei fab yn drawiadol iawn.

Wrth fwrw ymaith yr iaith a'r hen sicrwydd, fe'i cafodd Huw Menai ei hun fel llong ar drugaredd y byd - yn enghraifft drawiadol o beryglon newid diwylliant yn rhy sydyn.

Un o'r elfennau a gollir yw gallu'r math hwn o gynhyrchiad i ddangos yn gwbl glir yr adeiladu er bod y chwalfa yn drawiadol.

Y peth sy'n drawiadol am y traddodiad Cymreig yw'r argyhoeddiad fod y gwerthoedd a'r safonau sy'n ysbrydoli'r rheolau'n rhai ar gyfer gwerin gwlad, nid yn unig ar gyfer clerigwyr, mynachod a lleianod.

"Daeth fy mhrofiad o wneud colur yn handi, achos oedd angen gwneud y llygaid yn drawiadol, felly oedd e'n neis gallu gwneud hynny." Tra'n gwneud Twm Sion Cati gyda Chwmni Whare Teg, fe ddaeth i gysylltiad â Catrin Fychan - Gina yn Pobol y Cwm.

Ar ôl dehongliad llawn bywyd o Land of Hope and Glory, daeth y digwyddiad yng Nghymru i ben gyda'r emyn Calon Lân a gyfansoddwyd yn Abertawe wedii ddilyn gan Hen Wlad Fy Nhadau ac arddangosfa tân gwyllt drawiadol.

Wedi llwyddiant ysgubol eu hail albwm International Velvet a chaneuon fel Mulder and Scully, Road Rage a Strange Glue, roedd y cyngerdd hwn yn cael ei gynnal wedi iddynt ryddhau eu trydedd albwm Equally Cursed and Blessed, nad oedd yn fy marn i mor drawiadol ag International Velvet.

Yng ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae talcenni tai wedi eu haddurno'n drawiadol gan ddarlunio'r gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.

Mae pobol eisio ichi wnedu rhywbeth i ddal yr headlines yn y pedwar mis cynta' ond y peth anodd yw gwneud y job yn iawn." I raddau, fe greodd y Bwrdd ei broblemau ei hun - yr hyn sy'n drawiadol yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddigwyddodd dros y saith mis diwetha' a rhethreg y Cadeirydd flwyddyn yn ôl yn awgrymu fod byd newydd ar fin gwawrio a fod yr haul hwnnw'n debyg o godi o ran arbennig o anatomi aelodau Bwrdd yr Iaith.

Yr hyn sy'n drawiadol yn y cyd-destun penodol hwn yw iddo yn ei lythyr cyntaf ar sir Gaernarfon rybuddio'r awdurdodau yn Llundain fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog teyrnfradwriaeth - a'r troseddwr pennaf oedd Thomas Gee.

Ar y cyfan, felly, mae'n drawiadol cyn lleied o ddylanwad clasurol a fu ar y rhan fwyaf o farddoniaeth Gymraeg, a naturiol yw chwilio am esboniad ar hyn.

Yr hyn sydd yn drawiadol yn yr ymdriniaeth yw fod Theophilus yn ymgysylltu â chymaint o Ymneilltuwyr a Methodistiaid ar hyd ei oes, er ei fod mor enwog fel gelyn anghymodlon iddynt.

Aeth torfeydd â phicnic i'r parc gan fwynhau rhaglen drawiadol o'r un arddull a'r ‘Last Night' gan Gerddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC a gwesteion arbennig gan gynnwys y cantorion rhyngwladol Cymreig Rebecca Evans a Jason Howard - cyn mynd yn fyw i gyswllt â'r dathliadau yn Neuadd Albert.

Gellid gwneud drama drawiadol o hanes teulu'r tenantiaid, gan ddewis un cyfnod argyfyngus a dangos cyfres o ddigwyddiadau trychinebus yn dod ar draws ei gilydd.

Fel Dysgu Nofio mae diweddglo'r gân yma yn drawiadol hefyd, wrth i'r piano a'r bît ddiflannu yn raddol, gan adael llais i ganu'r gytgan heb unrhyw offerynnau yn y cefndir.

All neb ei feio am hynny ond roedd ei gyflwyniad yn fler a'i afael ar y pynciau pwysig sydd wrth wraidd yr ornest yn ymddangos yn drawiadol o ansicr.

Yr hyn sy'n drawiadol yw'r gwahaniaeth rhwng y proffil uchel bryd hynny a'r distawrwydd llethol yn awr...

Ond dyma dystiolaeth drawiadol sy'n dangos sut y buwyd ym more oes yn hau hadau'r serch a goleddodd Davies trwy weddill ei fywyd tuag at iaith, llenyddiaeth a chrefydd Cymru.

Mae gan Gwyn Thomas gerdd drawiadol yn darlunio carcharor gwleidyddol yn cadw ei bwyll trwy ymgyfeillachu a chrocrotsien yn unigrwydd ei gell.

Yr oedd mwy o bwys ar hynny nag ar fod yn drawiadol a chlyfar.

Gwrthgyferbyniai'r dwylo yn drawiadol â gweddill y corff oedrannus, roedd hynny'n wir.

Eto wrth syllu ar set drawiadol a naturiolaidd Angharad Roberts allwn i yn fy myw feddwl sut oedd y cynhyrchiad yma yn mynd i fod yn "arbrofol" - onibai fod yr ieir am ganu, gwneud dawns y glocsen a dodwy yr un pryd!

Adroddodd papur newydd mai cynllun ffrog Versace drawiadol a wisgwyd gan Miss Hurley yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gynllun lliwgar ar fysus yr ardal.

Aeth torfeydd â phicnic i'r parc gan fwynhau rhaglen drawiadol o'r un arddull ar Last Night gan Gerddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC a gwesteion arbennig gan gynnwys y cantorion rhyngwladol Cymreig Rebecca Evans a Jason Howard - cyn mynd yn fyw i gyswllt âr dathliadau yn Neuadd Albert.

Awdl drawiadol oedd hon yn ei dydd, ac mae'n ddarllenadwy hyd heddiw.

Y peth sy'n drawiadol am Lyfr y Tri Aderyn yw absenoldeb delweddau'r Bumed Frenhiniaeth.

Mae'n gosod y peth mewn iaith drawiadol yn ei benillion i'r Drindod yn Aleluia:-

Ceir enghraifft drawiadol mewn darn hysbys o ddrama William Shakespeare, Richard II, "This royal throne of kings, this sceptred isle..This blessed plot, this earth, this realm, this England".