Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drech

drech

Yn y diwedd yr oedd ymlyniad Bedwyr wrth fethod ac wrth y gwir yn drech na'i awydd i blesio: ar y weiarles, dysgodd foddi pobl mewn dŵr cynnes, chwedl Tom Jones Llanuwchllyn.

Efallai fod ei wybodaeth yn amlycach na'i ddysg, a'i ddamcaniaethu'n drech na'i ysgolheictod ar adegau, ond prin fod neb o'i flaen wedi ymchwilio'n ddycnach i holl agweddau hanes Mon na Henry Rowlands.

Os aiff bwrlwm y maes yn drech na chi yn ystod yr žyl, mae gwaredigaeth wrth law.

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Oedodd am funud cyn ei agor, ond erbyn hyn aeth ei bryder yn drech nag ef.

Cynhyrfai wrth sylweddoli fod y darlun yn dechrau mynd yn drech na hi.

Rhwng gwynt, glaw a thirwedd bu Carnoustie yn drech na goreuon byd ar unig gysur a gafodd Tiger Woods yno oedd cusan Yvonne Robb, dawnswraig benglin o Gaeredin.

Rywsut roedd yr ychwanegiad diflas yma am ryw 'anffawd', ar ol son am 'rywun' dirgel o annwyl, yn drech na'r gobaith.

Bu profiad arall, mae'n ymddangos, yn drech nag amynedd y rhadlonaf o gystadleuwyr ac yn ddigon i'w ddarbwyllo rhag herio ffawd am y trydydd tro.

Er gwaetha'r hanesion erchyll, aeth amser yn drech na ni, ac roedd hi braidd yn hwyr arnom yn rhoi'r gorau i ffilmio.

Heb ei Olwen ni all Culhwch fod yn gyflawn; os â hi'n drech nag ef, yna fe wyrdroir ei bersonoliaeth.

Ond un diwrnod dechreuodd y gwni%ad ddatod, ac fel pob plentyn arall am wn i, aeth fy chwilfrydedd yn drech na mi.

Achos y mae peryg i berfformiad fod yn drech na'r neges.

gwaith a gall hyn fod yn drech nag adnodd ariannol cynhyrchiad addysgol.