Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drefniadau

drefniadau

Ei drefniadau teithio oedd yn gyfrifol am hynny ond dwi yn ame y bydde fe wedi gwneud yr un peth petae e ddim yn dychwelyd i Gymru.

Ac un o'r pethau sydd yn fforddio mwyaf o gysur i mi y funud hon ydyw, ddarfod i mi fy hun gario allan drefniadau claddedigaeth fy hen feistr er boddhad pawb, heb ymgynghori â neb ond Dafydd Dafis.

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

Efallai fod disgybl y credir bod angen iddo gael sylw arbennig mewn un ysgol yn cael darpariaeth effeithlon mewn ysgol arall heb unrhyw drefniadau arbennig.

i ddylid tynnu ymaith arwyddion sy'n ymwneud ag allanfeydd tân neu drefniadau eraill pe digwydd tân.

Rhoddodd Hector yr holl drefniadau yn nwylo cwmni teithio.

Bydd y Gymdeithas yn gofalu bod yna drefniadau effeithiol ar gyfer diogelu gweithwyr cyflogedig, cleientau a'r cyhoedd rhag tân a pheryglon eraill sy'n bygwth unrhyw un o eiddo'r Gymdeithas.

Ond, mae gobaith bod y Swyddfa Gymreig yn bwriadu dechrau'n fuan ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd rhwng Dinmael a Thy Nant i osgoi Treoson y Glyn, gan fod yr holl drefniadau statudol bellach wedi'u cwblhau.

Ar yr un pryd, mae yna bryder y gallai gormod o drefniadau diogelwch wneud yr ysbytai'n oeraidd a di groeso.

Gyda'r holl drefniadau, teimlwn o hyd fod fy hen feistr hoff yn fy ymyl; ac yr oeddwn megis yn gwneud popeth yn ôl ei orchymyn.

Ar yr un pryd, mae ysbytai ar hyd a lled Cymru'n gwario degau o filoedd o bunnoedd ar drefniadau diogelwch, o dagiau i'w clymu am goesau'r babanod i gamerâu a drysau diogelwch.

Ni welwyd unrhyw gerdyn yn eu plith a stamp tramor arno, gan i drefniadau'r sawl a arfaethasai fwrw'u gwyliau ym Majorca fynd i'r gwellt trwy fethiant alaethus y cwmni gwyliau.