Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drefnir

drefnir

Peidiwn ag anghofio ychwaith am y gweithgareddau a drefnir yn flynyddol gan y Gwasanaeth Llyfrgell, megis yr Wyl Lyfrgell ac Wythnos Llyfrau Plant.

Bydd y pedair prif blaid wleidyddol yn cael eu cynrychioli mewn cyfarfod cyhoeddus drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd, Nos Fawrth Mai 16eg am 7.30.

Gofynnir i bob awdurdod anfon rhestr o'i destunau o flaen llaw ac yna fe drefnir system o baru gydag awdurdodau a thestunau tebyg.

Cafwyd eisoes gyrsiau hyfforddiant ac fe drefnir ychwaneg fel rhan o'r cydweithrediad rhwng CCPC.

Dros y penwythnos un digwyddiad na fydd yn cael ei ganslo oherwydd y prinder petrol fydd y daith gerdded 150 milltir a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd (11 o'r gloch Dydd Sadwrn) i'r Senedd yn Llundain.

Fel cyrsiau eraill y Coleg bydd y cyrsiau diploma hefyd yn rhan o'r cynlluniau arfarnu rheolaidd a drefnir gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd pan roddir ystyriaeth i ddangosyddion ystadegol (ceisiadau, derbyniadau, canlyniadau, gwastraff etc.), adborth myfyrwyr, adroddiadau arholwyr allanol, staffio ac adnoddau.

Y mae hi'n angenrheidiol felly, i bob cynllun iaith fynd i'r afael â'r her o sefydlu peuoedd newydd i'r Gymraeg gyda'r un amod sylfaenol hwn yn aros yn gwbl ddi-wyro, sef mai Cymraeg yw unig iaith y man cyfarfod a'r gweithgareddau a drefnir.