Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drefnus

drefnus

Ond roedden nhw'n gystadleuol ac mi roedden nhw'n drefnus a'u tactegau'n iawn o ystyried y chwaraewyr sydd ganddyn nhw.

Os mynn neb bererindota at wron Cynfal ar hyd ffordd Mr Thomas, awgrymaf ei fod, cyn mynd at Morgan Llwyd: ei gyfeillion a'i gyfnod, yn darllen y gyfrol Saesneg yn "Writers of Wales," cyfrol a rydd iddo olwg ar Llwyd yn ei gefndir ac yn drefnus wrth ei waith ysgrifennu.

Ond roedden nhw'n gystadleuol ac mi roedden nhw'n drefnus au tactegaun iawn o ystyried y chwaraewyr sydd ganddyn nhw.

Yr oedd yn rhaid i'r gweithiwr ffwrnais roddi'r platiau'n drefnus yn y ffwrnais, rhai yng nghefn y ffwrnais, eraill yn yr ochrau a rhai yn y blaen, a'u symud o'r naill le i'r llall fel y byddent oll o'r un tymheredd.

Yn sgîl hynny, o wylio gemau y dyddiau hyn, cawn berfformiad amddiffynnol cadarn am eu bod mor drefnus.

"Stand, turn, march," ebe'r athro yn ei ddull awdurdodol, ac allan â ni, yn weddol drefnus nes mynd o'i ŵydd, ond wedi hynny yn bur wahanol.

Dim ond ar y bwrdd y sylwais ar fynyddoedd o lyfrau nodiadau mewn llawysgrifen wedi eu gosod yn drefnus.

Fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad y llynedd, dylai cynllunio fod yn broses rhesymegol, nid mympwyol, yn mynd ati'n drefnus i ystyried defnydd tir a rheoli datblygu.

Edrychent yn drefnus iawn, yn union fel milwyr mewn rhes.

Canmolodd y beirniaid drylwyredd y ddau safle, a oedd yn swmpus, yn drefnus, yn sylweddol ac yn ddeniadol.

Achosion a gofnodir yn drylwyr ac yn drefnus, fel y bydde disgwyl i unrhyw gyn-dditectif ei wneud.

Hefyd, mae eisiau gwella'r broses o ledaenu canlyniadau'r arolygu hwn i'r sector anstatudol, mynd ati'n drefnus i adeiladu ar y cyswllt â'r sector anstatudol, a hynny'n arbennig drwy Fforwm Amgylchedd Gwynedd - fforwm lle gall y cyrff statudol ac anstatudol sydd â diddordeb yn yr amgylchedd gyfnewid syniadau a gwybodaeth.

A phan amcanai gerdded, nid symud yn drefnus o'r naill gam i'r llall a wnâi, ond rhyw fynd hwnt ac yma ar hanner tuth, a hynny gan amlaf ar flaenau'i draed.

I berson mor anniben â mi, caffaeliad mawr iawn yw gwraig drefnus !

Mae myrdd o rwystrau cyfundrefnol a seicolegol yn sefyll yn ffordd dwyieithrwydd gweithredol, ond gydag ymdrech drefnus y mae modd eu gorchfygu.