Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dreulio

dreulio

Beth am yr adegau eraill pan ofynnwyd imi dreulio cyfnodau yn Washington, yn benodol pan gafodd Ronald Reagan, George Bush a Bill Clinton eu hethol yn arlywyddion.

Serch hynny, ychydig a boenai'r lleidr profiadol o Lundain am dreulio cyfnod o gaethiwed yn Awstralia, ond ystyriai'r gweision fferm yr alltudiaeth gyda'r ansicrwydd eithaf.

Nid oes raid inni dreulio llawer o amser yn trafod y ddau gam cyntaf.

Yn sicr, ni fwriadai hi dreulio ei hoes mewn cragen o dŷ fel hwn yn syllu drwy'r ffenestr a magu ieir ur un fath â'i nain.

Mae pinc y mynydd, sydd yn bridio yn Llychlyn a gogledd Rwsia yn dod yma i dreulio'r Gaeaf ac fe'i gwelir yng nghwmni'r ji-binc yn aml.

Sesiynau Labordy Agored Yn ogystal â mynd i'r darlithoedd a'r sesiynau labordy sydd ar yr amserlen, bydd angen ichwi dreulio rhagor o amser yn gweithio yn y labordai; er enghraifft, yn rhoi prawf ar arbrofion neu yn defnyddio cyfrifiaduron.

Wrth i anadl a nerth ddod yn ôl i mi, sefais a meddwl yn ddwys mai ffordd ddwl ar y naw oedd hon i ddyn yn ei fan dreulio'i fywyd.

Bu'n blismon ers saith mlynedd gan dreulio'r holl amser hwnnw yn Llanelli, fel heddwas stryd yn gyntaf ac yna fel ditectif gwnstabl.

Mae mwy nag un aelod o'r ddirprwyaeth, sydd ar staff Prifysgol Cymru, wedi mynegi awydd i ddychwelyd i Bluefields i dreulio cyfnod fel darlithwyr yn y Brifysgol.

Ar ôl y gêm, byddai'n rhaid mynd â'r hogiau i ble bynnag yr oeddent am dreulio'r noson.

Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.

Ar ôl diolch am allu i'w fwyta, clywaf ef yn dweud, "Er i mi dreulio bron i hanner can mlynedd ar y môr fy hoff sŵn yw si awel ysgafn dros barc o geirch aeddfed." Credaf fod gwên radlon yr "hen Grynwr" ar y bocs ceirch yn ysbrydiaeth iddo hefyd.

Bu Sulwen yn gweithio i Crosville am flynyddoedd gan dreulio cyfnod ym Mhorthmadog.

Ond mae hi'n ras fawr, a buan y dychwel y rhew a'r eira a bydd yn rhaid i'r adar droi am le cynhesach i dreulio'r Gaeaf.

Pe byddai'r Bod Mawr wedi bwriadu inni dreulio cymaint o amser ar bedair olwyn byddai wedi rhoi castars dan ein gwadnau.

Roedd yn Gymro twymgalon ac er iddo dreulio pum mlynedd yn Ffrainc yn darlithio ac yn ehangu ei orwelion academaidd treuliodd y gweddill o'i oes yn y maes addysg yng Nghymru.

Ei hawydd hi i dreulio'r Nadolig efo'i theulu oedd achos y ffrae ond gwelai rŵan na allai fwynhau'r ŵyl heb ei gŵr.

Ond un tymor arall yn unig a gafodd ei dreulio yn yr ysgol honno.

Aem drwy'r astudiaethau manwl hyn hefyd ar y goes gan dreulio tri mis gyda'r aelod hwnnw ac felly am bob rhan o'r corff: rhannau fel y benglog a'r ymennydd neu'r bol, a cheid arholiadau bob rhyw fis neu chwech wythnos ar yr astudiaethau hyn.

Gwir dweud hefyd i'r ddinas ddenu nifer o Almaenwyr ifainc am nad oedd gofyn i'w thrigolion dreulio cyfnod yn gwneud gwasanaeth milwrol.

Daethai rhai ohonynt o waelod y plwy i drin tir y mynydd ac i fyw arno, ac aethant i'w cynefin i dreulio'u "hun hir."

Mae Richard Vaughan, ar y llaw arall, er iddo dreulio ychydig amser yng Nghymru, yn gweld ei dynged draw yn Lloegr.

Yn 1999 dychwelodd eto i dreulio'r haf gyda Cassie a chafodd 'fling' gyda Dic Deryn.

Bu'n rhaid i gyd-gadeirydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg, Branwen Brian Evans o Aberystwyth, dreulio awr a hanner yn Swyddfa'r Heddlu Aberystwyth neithiwr (Nos Lun Rhagfyr 4ydd). Cafodd ei holi ynglŵn ag ymgyrch dor-cyfraith y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei gynnal yn erbyn Coleg Ceredigion.

'Mae rhywun yn tueddu i dreulio'r amser yn mynd o'r tŷ i'r car, ac yn ôl i'r tŷ, felly mae'n bwysig gwneud ymarferion', ebe Beryl Owen, cyd-drefnydd rhanbarth Dinbych, Clwyd.

Mae gennyf gôf plentyn o fynd ar y trên bach i'r Mwmbwls o Abertawe yn Ystod un o'r hafau poeth tragwyddol yna a gawsom i gyd fel plant, gan dreulio'r diwrnod i gyd ar fy hyd yn turio rhwng y creigiau am drysor.

Yn wir, yr oedd gyda nifer ohonon ni luniau yn ein meddyliau o dreulio penwythnos mewn rhyw hen hongliad o adeilad oer a gwag, di-gysur a diarffordd.

Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.

Ond methodd Terry, druan, a dysgu nes mynd i dreulio mwy a mwy o'i fywyd yn Uned Gaeth Ysbyty'r Eglwys Newydd - llai erbyn hyn yn y twll 'ma.

Gofynni iddo dy arwain ar unwaith i'r fan lle y gwelodd hwynt, ond fe awgryma ef y byddai'n well i ti dreulio'r noson yn y caban ac iddo fynd â thi i ben draw'r goedwig fore trannoeth gan fod y marchogion yn dilyn prif lwybr y goedwig, ond fe ŵyr Morgan am lwybr tarw a fydd yn dy arwain drwy'r goedwig yn gynt.

Fe fyddai Emyr wedi medru dweud wrth ei fam-yng-nghyfraith yn ddigon plaen, er yn gwrtais, eu bod nhw wedi ailystyried ac na fyddent wedi'r cwbl yn dod i dreulio'r Nadolig yn Nhyddyn Ucha' eleni.

Treuliais rai diwrnodau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn cyn hedfan i Wlad Iorddonen i dreulio gweddill y rhyfel yn fanno.

O gofio hyn oll, a'r ffaith iddo dreulio peth amser yn y llynges cyn dod i'r coleg, sylweddolir bod cymwysterau a phrofiad arbennig ganddo wrth iddo ddechrau ar ei waith gyda'r BBC.

Ond prin yr oeddwn wedi cael sicrwydd y medrwn astudio yma ac wedi dechrau hel fy mhethau at ei gilydd pan dderbyniodd y bonwr Schneider wahoddiad i dreulio cyfnod fel awdur gwadd - yn Abertawe.

Ond mae rhan helaeth ohonynt yn setlo yn yr aberoedd i dreulio'r Gaeaf yn y wlad hon.

Dathlodd yntau ynny drwy ddweud nad oedd am ddechrau Uwyrymwrthod o yfed tan y diwrnod canlynol a'i fod am dreulio gweddiU y iwrnod hwnnw drwy yfed hynny a fedrai o'r hen ddiodydd eth i Drefriw i werthu ychydig gerddi a chafodd lawer o gwrw no.

Does dim byd sinistr tu ôl i hyn, tydi'r man in a grey anorack ddim wedi awgrymu bod hi'n amser i mi dreulio mwy o amser efo 'nheulu, nac yn wir bod hi'n amser i mi gychwyn un.

Gallwch dreulio hanner awr yn rhwydd yn eistedd mewn tŷ bwyta gwag cyn i'r 'waiter' ddod i holi beth hoffech chi ei gael i'w fwyta.

Gobaith pererin wrth bererindota oedd ennill lleihad ar y cyfnod y byddai'n rhaid i'w enaid dreulio yn y Purdan wedi iddo farw, oherwydd yr oedd y Purdan lawn mor real i Gymry'r oesoedd Canol ag ydoedd Nefoedd ac Uffern.

Fe fu cryn ddyfalu ynghylch tueddiadau rhywiol yr Arlywydd ac, unwaith, fe wahoddodd bump o newyddiadurwragedd o gylchgronau yn yr Unol Daleithiau i dreulio peth amser gydag ef, ei wraig Soffia, a'u saith plentyn er mwyn gweld pa mor normal oedd bywyd y teulu.

Yn ail pan ddaeth Elfed i Fwcle, fe'i gosododd ei hun ar lwybr a barodd iddo dreulio'i oes yn byw mewn dau ddiwylliant a dwy iaith.

Yna, ar ôl dychwelyd i ddiddosrwydd y wâl daw bwyd bras trwyddi yn y tail a bydd hithau yn ei gnoi a'i dreulio'n hamddenol.

Roedd yn ofynnol hefyd i fynychu darlithoedd ar agweddau eraill o'r corff; tebyg i sut mae'r corff yn gweithio; sut mae'r bwyd yn cael ei dreulio a sut mae'r holl aelodau yn cadw'r corff yn fyw.

Ond wedi dweud hynny, mae yna fwynhad i'w gael o dreulio diwrnod ar lan y môr, a chyfle i ail-fyw ambell bleser o'ch plentyndod coll.

Bob haf, dewisir rhai miloedd o'r goreuon o blith plant ysgol Libya i dreulio tair wythnos mewn gwersylloedd.

Yn yr Hydref, pan fydd yr adar ddaeth yma yn y Gwanwyn yn troi yn ôl am Affrica gyda'u teulu newydd, mae miloedd o adar eraill yn dylifo i Brydain o rannau gogleddol y byd i dreulio'r Gaeaf yma gyda ni.

Dewisai Rhian dreulio ei gwyliau gyda Megan yn hytrach na Reg.

Ac am dreulio cyfnod mewn cell, wel, dyna'r dasg hawsaf ohonyn nhw i gyd.

O'r herwydd, er imi weld paratoadau'r milwyr yn anialwch gogledd Saudi - chefais i mo fy nethol i dreulio cyfnod y rhyfel ei hun gydag unrhyw uned.

Anghofia' i fyth weld marines ifanc oedd newydd dreulio misoedd yn denu dirmyg y cymunedau cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu croesawu fel arwyr ar strydoedd Zacco a threfi eraill gogledd Irac.

Os oedden nhw am dreulio'r Nadolig yn Surrey, fe fyddai'n rhaid prynu llu o bethau.

Roedd wedi edrych ymlaen ers wythnosau at y daith y byddai'n ei gwneud heddiw - taith a fyddai'n ei dwyn bob cam i'r ddinas fawr lle'r oedd yn mynd i dreulio wythnos gron gyfan yng nghwmni ei chyfnither, Llygoden Fach y Ddinas.

Gwyddai Carol, yr eiliad honno, na fedrai wynebu gweddill y siwrnai heb Emyr, heb sôn am dreulio'r Nadolig a'i phenblwydd hebddo.

Bob dydd Nadolig, ar ol cinio, cawn fynd i Trofa at Ifan fy nghyfaill i dreulio gweddill y dydd.

Gellid yn hawdd gymeradwyo ffyrdd amgenach o dreulio'r diwrnod na sefyllian ar lawnt yn Reykjavik a hithau'n ddiwedd Hydref ond dyna oedd y dasg gerbron.

Yn y cerbyd hwnnw yr oeddwn i, Siwsan a'r plant yn teithio, a bu'n rhaid i mi dreulio hydoedd mewn caban diogelwch wrth i swyddogion fy nghroesholi.

Dyma fu'r hanes bob tro o'r blaen pan fuon nhw'n teithio'n ôl i Wynedd i dreulio'r Nadolig efo'r teulu.

Bu mewn ugain o wledydd i gyd wrth dreulio tair blynedd yn ffilmio'r hanes.

Byddai arfer mynaich y de-ddwyrain o dreulio amser yn Lloegr yn esbonio pa mor rhwydd y daw Kent, yn hytrach na Chaint, i feddwl ein hawdur, er iddo ddefnyddio'r ffurfiau Cymraeg Henffordd a Rhydychen.

Unwaith, gwahoddodd bump o fenywod a oedd yn newyddiadurwyr ar gylchgronau yn America i dreulio peth amser gydag ef, ei wraig Soffia, a'u saith plentyn, i weld pa mor normal oedd eu bywyd teuluol.

Mae straen y Nadolig yn dod i'r wyneb wrth i Kath gychwyn poeni am dreulio'r Nadolig ar ei phen ei hun, tra bod Cassie yn gorfod gwylio beth mai'n ddweud wrth i Hywel fynd dros ben llestri yn prynu anrhegion Dolig i Rhys.

"Er mwyn hepgor anhawsterau wrth i bobl dreulio amser yn chwilota yn eu pyrsiau am bres parcio a dal y traffig i fyny fe benderfynwyd peidio â chodi tâl parcio eleni,'' meddai.

Ond er iddynt dreulio dwyawr digon anghysurus yn swatio a gwylio yng nghefn y ffynnon ni welsant undyn byw a thri digon siomedig a drodd eu hwynebau tuag adref fel y teimlent y dafnau cyntaf o law yn disgyn ar eu talcennau.

Ond, medda fo, roedden nhw'n deulu mawr ac roedd ganddyn nhw nifer o berthnasau yn Llundain yn awyddus i ddod i dreulio gwyliau efo nhw yn Exeter, ac roedd hynny'n dipyn o demtasiwn i'w dad ddefnyddio stafell y bwgan.

Hoffasai hedfan, ond yr oedd hynny'n rhy gostus, ac yr oedd am i'w adnoddau ariannol ganiatau iddo dreulio cymaint o amser ag oedd yn bosibl ym Mharis.

Mae am dreulio mwy o amser gydai deulu.

Cynefindra a dieithrwch - dyna begynnau'r profiad o dreulio ychydig wythnosau yn y bryniau sy'n gorwedd i'r de o afon Brahmaputra yn Assam ac i'r gogledd o wastadeddau dyfrllyd Bangladesh.