Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dridiau

dridiau

Dridiau cyn iddo gychwyn derbyniodd Hector lythyr, rhyw brofiad anghyffredin yn ei hanes llwm.

Roedd y tri swyddog wedi cael eu codi dridiau wedi iddynt ddianc ac wedi eu danfon i wersyll ar yr arfordir.

Ac er ei chasineb at waith papur, yn union fel y disgrifiasai Watcyn Lloyd hi, 'roedd wedi bod wrthi am dridiau cyfan bythefnos ynghynt yn gwneud dim ond cynorthwyo Sioned i ymgynefino â'r busnes a chael trefn ar y cyfrifon.

Mae gemau'r rownd gyn-derfynol dros 33 ffrâm ac yn para am dridiau.

Ar ôl gorwedd am dridiau ar lawr caled y gell gosb, yr oedd cael gorwedd ar wely estyll yn orffwystra.

Gyda Rownd Derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm dridiau i ffwrdd, roedd Lerpwl neithiwr yn dal i drïo sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesa.

Y stori yw, y tro cyntaf i hynny ddigwydd, iddo fod ar goll am dridiau.

Mae wrthi yn y tþ byth a hefyd yn ogystal â gweithio pedair awr y bore am dridiau bob wythnos mewn siop gyfagos er mwyn helpu i ennill bywoliaeth a gwneud y cyfri rywbeth yn debyg i'r hyn ydoedd.

Yr oedd cael bod mewn hanner-tywyllwch a byw ar fara-a-dþr am dridiau fel cosb am geisio edrych ar ferch yn ddigrif i Fyrddin Tomos.

A'r wythnos hon dwi wedi bod adra'n sâl am dridiau.

Ac wedi hwylio am dridiau neu bedwar, ni allai Ibn gofio'n iawn â'r criw i gyd yn dechrau anesmwytho ag anniddigo oherwydd eu bod yn gorfod dognrannu'r dŵr yn ofalus, fe benderfynwyd eu bod am angori llong nid nepell o'r lan, lle gellid gweld tŵr eglwys uwch y coed.

Fe gymrodd hi ryw dridiau ar ôl glanio yn Ankara i groesi Twrci a symud o un ganolfan filwrol i'r llall cyn y gallwn gael hofrennydd i'r mynyddoedd.

Cwblhaodd Ieuan Gwynedd ei gerdd olaf - a'i orau - dridiau cyn ei farwolaeth ac anodd peidio â chredu nad yw 'Cân y Glo%wr' yn tystio'n groywach i realiti bywyd yng Nghymru na 'Bythod Cymru'.

Buom yn disgwyl dridiau.