Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drigolion

drigolion

I drigolion Eifionydd, chwithdod oedd deall bod y Doctor E.

Efo oedd organydd eglwys y plwyf yno, ac 'roeddwn yn ddigon ffodus i gael ei adnabod a'i glywed wrthi'n canu'r piano yng nghartrefi rhai o drigolion Y Waun yn ogystal ag yn ei gartref ef ei hun.

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Dymuna Olwen Rees Jones, Danolfan, Wern, Trefnydd casgliad at y Groes Goch yn Llanfairpwll yn ystod wythnos y Groes Goch ym mis Mai ddiolch i drigolion Llanfairpwll am eu cefnogaeth i'r gronfa ac i ddiolch yn arbennig i'r holl gasglwyr am eu gwaith ardderchog.

Er pan oeddwn yn hogyn clywais drigolion Uwchaled yn sôn yn aml amdano, a hynny gyda pharch ac anwyldeb.

Y mae ei genadwri, ei weinidogaeth, ei aberth a'i atgyfodiad yn cyffwrdd â holl drigolion y blaned.

Dyma fi a Robin El, wrth ddžad adra o'r ysgol yn tynnu'u cyrc nhw, new yr oedd y lôn yn un foddfa o dar 'run fath â'r Trinidad Lake, ac yr oedd yn rhaid i drigolion y Waen fynd trosodd i gae Tai Croesion i fynd heibio.

(ii) Awdurdodi'r Prif Swyddog Cynllunio i benderfynu'r ceisiadau canlynol fel a nodir gyda'r amodau priodol:- Cais llawn - stablau ac ystorfa bwyd preifat I ganiatau'r cais os na dderbynnid gwrthwynebiadau gan drigolion y tai cyfagos.

Mae chwithdod mawr ar eu hol yma ym Moelfre - buont yn barod bob amser eu cymwynas a'u gwasanaeth a'u cyfeillgarwch i ni, drigolion y pentref, ac i gylch eang o Fon a'r Gogledd.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Ganwyd Phil ar ddiwedd y ganrif o'r blaen pan oedd nerthoedd grymus yn dygyfor ar bob llaw, mewn cymdeithas a gwlad a byd, ac ni allent lai na dylanwadu ar drigolion y cyfnod.

Ond y mae yr un mor galed i lawer o drigolion Moscow ddeall paham yr ydym ni mor hoff o Mr Gorbachev.

Felly y sefydlwyd New South Wales, ac yn ddiweddarach Van Diemen's Land a gorllewin Awstralia, yn garchar eang i drigolion yr hen wlad y mynnai'r awdurdodau eu gwaredu.

Ond roedd gŵyl y Nadolig yn nesa/ u a gan ei bod yn dymor o ewyllys da, penderfynodd y tafarnwr yn Plouvineg gynnal gwledd gan wahodd holl drigolion y plwyf yno i'w mwynhau eu hunain.

Yng ngwir draddodiad roc a rôl fe gawn hanes y grwp yn ymweld a thy un o drigolion gwylltaf Caernarfon ac yn colli eu pennau mewn mwy nag un ystyr , gymaint âu bod yn...colli eu brên a theimlo fel ceffyl pren.

Clywais rywun yn dweud unwaith fod llethrau'r cwm lle saif Pontycymer mor serth nes bod modd i drigolion y naill ochor ysgwyd llaw â phreswylwyr y tai ar yr ochor arall.

Prin y clywais unrhyw un o hen drigolion y Cei yn siarad Saesneg.

Mae'n amlwg nad oedd gan drigolion y cyfnod hwnnw lawer o ofn 'tywydd mawr' - trefnwyd i gynnal cyfres o Oedfaon Pregethu a gwahoddwyd pump o bregethwyr i wasanaethu.

Gwyddys hefyd fod canu baledi yn weithgarwch poblogaidd ymhlith rhai o drigolion y dyffryn, a'r rheini'n aml yn wŷr a brofodd ddyddiau gwell, megis Evan Nathaniel, brodor o'r Alltwen yn wreiddiol, a fu'n crwydro'r cymoedd yn canu a gwerthu baledi.

y cwbl a wyddent oedd ei fod yn gwisgo siwt drwy 'r wythnos a hen ddillad ar y sul, yn hollol i 'r gwrthwyneb i 'r mwyafrif o drigolion y pentref.

ni lwyddodd y brwdfrydedd a amlygwyd yn ystod y gynhadledd i barhau am yn hir yn ei ymchwydd ac i ddylanwadu ar drigolion prydain gan i louis napoleon bonaparte, tua deufis ar ôl y gynhadledd, ddymchwel gweriniaeth ffrainc drwy coup d' tat a gwneud ei hun yn ymherodr napoleon y trydydd.

Cyrhaeddodd i ddechrau yn 1989 gan wneud cryn argraff ar y pentre a'i drigolion.

Fe'i haddolwyd gan drigolion nifer o wledydd fel coeden sanctaidd i dduw yr awyr a alwyd gan genhedloedd gwahanol yn Zeus, Jupiter, Thor neu Taranis.

COLLEDION: Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu farw chwech o drigolion yr ardal.

'Roedd ef (y Prif Swyddog Cynllunio) o'r farn nad oedd y gwaith a wnaed o ehangu'r libart yn effeithio ar drigolion yr ystad fel yr honwyd gan y cwynwr.

Mi aethon nhw a phob peth oddi yno yn flodau ac yn llwyni - a hyd yn oed y pwll pysgod a'i drigolion.

Ond y pentref unigol (a'r gweithle) yw sylfaen bywyd cymunedol naturiol neu anffurfiol y mwyafrif o drigolion ac, ar y lefel hon y creir ymwybyddiaeth o berthyn i gymuned organig ac amlochrog o'i gwrthgyferbynnu â pherthyn i fudiad neu garfan diddordeb arbennig.

Canlyniad creu'r gwagle oedd bod yn rhaid ei lenwi, ac yr oedd y deunydd ar gael yn hwylus yn yr hen fisitors annwyl yr oedd cymaint o drigolion y Pen wedi mynd i fyw i'r sied i wneud lle iddynt yn ystod misoedd yr haf er dechrau'r ganrif.

Mae'r ffaith fod pobl gogledd Fflorens wedi mynd mor bell â gwerthu dwr yfed i'w cyd-ddinasyddion ym mharthau deheuol y ddinas (oedd heb ddwr o gwbl), a ffeithiau tebyg, wedi gyrru'r bechgyn i feddwl yn isel am drigolion y wlad hon, ac i edrych arnynt fel pobl sebonllyd, gynffonnaidd a diegwyddor.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

Felly, er i'r diwydiant ddechreuwyd gan Bowser fynd i ben oherwydd hunanoldeb Iarll Ashburnham ac annoethineb Bowser, manteisiodd cwmni%au eraill ar ei waith arloesol a dod â chyflogaeth i drigolion Porth Tywyn.

Felly, er i'r diwydiant ddechreuwyd gan Bowser fynd i ben oherwydd hunan-oldeb Iarll Ashburnham ac annoethineb Bowser, manteisiodd cwmni%au eraill ar ei waith arloesol a dod â chyflogaeth i drigolion Porth Tywyn.

I drigolion Cymru, yn enwedig y gogledd, roedd nifer o'u cyd wladwyr yn cynnig hyrwyddo'u trefniadau teithio.

Plwyfol, yn ystyr orau'r gair, yw'r newyddion a geir ynddynt ond yn aml y maent yn ffenestr i'r byd i'r graddau eu bod yn cynnwys adroddiadau gan drigolion lleol, neu am drigolion lleol sydd wedi ymweld a rhannau dieithr o'r byd, neu sy'n byw dramor.

Aeth y 'fisitors' yn 'ymwelwyr', yn dwristiaid', yn anneddwyr, yn drigolion rhan-amser.

Ond, mynegodd rhai o drigolion Carneddi eu pryderon ynglŷn a'r cynllun wrth y Llais, gan ddweud eu bod nhw'n poeni y bydd y tai ym Methesda i gyd yn edrych yr un fath yn y dyfodol, ac y bydd nodweddion hanesyddol diddorol, fel ffenestri anghyffredin, wedi mynd ar goll.

Gall yr Undeb fod yn drigolion stryd arbennig, aelodau rhyw gymdeithas neu gapel, cynllun pentrefol neu unrhyw fath o gymuned.

Llongyfarchiadau calonnog i un o gyn drigolion Y Garth, sef Enid Phillips, nith Miss Dilys Jones Phillips, Cenarth, Ffordd y Garth.

Mae enwau fel y Wythi%en Goch, Gwythien Bryn-lloi, gwythi%en y Bresen Fach a Gwythi%en yr Harnlo yn gyfarwydd ddigon i drigolion cylch dyffryn Aman.

Oni fyddai'r goleuadau trydan yn gryn ryfeddod i drigolion y dyddiau gynt?

Mae digon o fwyd yno i sicrhau Nadolig Llawen i bawb o drigolion y dref yma." Arhosodd am ychydig i'r ddau arall gael cyfle i astudio'r map yn fwy manwl.

Daeth pwt o hanes am un o gyn-drigolion yr ardal i'r Llais.

Mae'n debyg y byddai 'na rai o drigolion Gwlad yr Ia a fyddai'n eu cyfri eu hunain yn Ddaniaid yn nyddiau'r oruchafiaeth Ddanaidd.

Erbyn hyn anifeiliaid gaiff loches mewn rhai o'r hen gartrefi, fel Tai Fry a Llechwedd Llyfn, ac amheuwn a ŵyr un o drigolion yr ardal heddiw union safle y cartrefi a adwaenid gynt fel, Tyn-y-Maes, Ty'n-y-gornel, Ty'n-yr-ardd, a Bryn Bras.

Y diwrnod pan fyddai seremoni moli'r Ddinas yn cael ei chynnal, ac yna gwledd arbennig i'r holl drigolion.

Mae'r gwasanaeth yn un gwerthfawr, yn arbennig i drigolion gwledig sy'n hen neu'n wael ac yn anabl i deithio i'r llyfrgell agosaf.

bu'n ddiwyd iawn yn ceisio cael rhagor o gefnogaeth i achos heddwch gan drigolion prydain.

Roedd y dref ei hun yn dawel - dim ond ychydig o drigolion i'w gweld er y codai swn bargeinio brwd o'r farchnad y tu allan i waliau'r castell.

Doeddwn i ond yn gobeithio y byddai gan un o drigolion hynaf y fro ambell atgof neu hanesyn diddorol ar fy nghyfer.

Yn yr ail le cawn genhedloedd canolig eu maint, gyda miliwn a hanner hyd at bedair miliwn o drigolion, neu o leiaf diriogaeth fawr, fel yn achos y Ffindir a Norwy: dyna'r Tsieciaid, y Slofaciaid a'r Croatiaid yn yr Ymerodraeth Habsburgaidd; Rwmaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid o dan Twrci; a'r Gwyddelod, y Catalaniaid a'r Fflemingwyr yn y Gorllewin.

Bydd yr hen drigolion yn cofio cymaint ag wyth o lofeydd bychain yno'r adeg hyn a dim trafferth gan yr un i werthu'r cynnyrch.

Dim ond un peth oedd ar feddwl pob un o drigolion y dref - roedd byddin bob amser yn newynog - boed hi'n gyfeillgar neu'n elyniaethus - ac roedd disgwyl i fyddin fyw ar y wlad roedd hi'n teithio drwyddi.