Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drindod

drindod

Roedd cerdded o dan ysgol, felly, fel cerdded drwy'r Drindod ac yn arwydd o amarch.

Ond does wiw ichi holi beth yn union y mae'r lluniau yn ei olygu, oherwydd ni chlywodd y gofalwyr erioed am y Drindod, y Forwyn Fair, y Geni Gwyrthiol, y Swper Olaf ac yn y blaen.

Mae Bardi McLennan yn cydnabod mai Walter Glyn oedd cymwynaswr pennaf y Daeargi Cymreig, fel hanesydd o Goleg y Drindod Caergrawnt, Rhydychen, beirniad, awdur erthyglau a llysgennad mwyaf y brîd.

Sef o ryw fan deallusol lle nad oes odid neb yn colli cwsg ynghylch iawn amseriad y Farn Fawr nac yn debyg o lindagu ei gystedlydd os nad yw'n cytuno gant y cant ag ef ynglŷn â natur y Drindod ac arwyddocâd symbolaidd y planedau; ond man, serch hynny, lle cydymdeimlir ag amcanion yr ysgrifennwr crefyddol fel ag amcanion pob llenor.

Cyfeiriodd hefyd at y drychiolaethau o brifeirdd (primitive poets) neu'r 'cyntefigion Beirdd Ynys Prydain', nid amgen, Plennydd, Alawn a Gwron, sylfaenwyr dysg y Beirdd (yn ôl Iolo Morganwg), y drindod a fyddai'n symbylu'r Awen yn ymwybod y Beirdd a ddeuai i'r cylch.

I'n hynafiaid, fodd bynnag, roedd gosod ysgol yn erbyn mur yn ffurfio triongl ac yn cynrychioli arwydd y Drindod.

Astudiodd llawer o'r enwau syn gyfarwydd i wrandawyr y BBC yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac yn eu plith rhai o actorion Pobol y Cwm.

Ras Tafari, brenin Ethiopia, yn dod yn ymherawdr ar farwolaeth yr ymerodres Zauditu, ac yn mabwysiadu'r enw Haile Selassie, 'Grym y Drindod'.

Ar diweddar Dewi Bebb yn dod o Goleg y Drindod i wneud diploma trydedd flwyddyn mewn addysg gorfforol.

A rhoi eu henwau priodol iddynt - treuliant personol, buddsoddiant diwydiannol, gwariant y llywodraeth (dyna'r drindod fewnol), ac yn olaf y sector allanol.

Un argyhoeddiad y glynais wrtho drwy'r blynyddoedd yw fod y Drindod Sanctaidd wrth y llyw, ni waeth beth ddywed arwyddion yr amserau.

Mae'n gosod y peth mewn iaith drawiadol yn ei benillion i'r Drindod yn Aleluia:-

Cymdeithasai'n gartrefol â'r tadau cynnar a gwyddai'n iawn beth oedd arwyddocâd y dadleuon astrus hynny yn y bedwaredd a'r bumed ganrif a luniodd yr athrawiaethau uniongred am berthynas Personau dwyfol y Drindod â'i gilydd.

Ganed y Dr John Davies yn y Rhondda, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Nhreorci, ym Mwlchllan, Tregaron, ac wedyn ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt.