Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dringo

dringo

Taith bleserus, heb orfod dringo gormod na dychwelyd yr un ffordd, yw'r un i fyny Llwybr y Mwynwyr at Lyn Glaslyn ac yna i lawr Llwybr y Pyg.

Ond, a hwy ar fin dringo'r llethr, gwelent lewyrch golau cerbyd yn llenwi'r awyr ar y dde iddynt.

Yr oedd yn ofynnol i'r sawl oedd ar y graig fod yn o ystwyth i danio'r fuse a dringo i fyny i ddiogelwch, ac yn ddisymwth dyma'r ergydion yn dechrau mynd allan.

Panic llwyr--agor y drws i'r cefn, a fflame yn dringo i fyny'r llenni.

Mi adawn y llwybr yma a dringo'r llethr glos ar y dde i gyrraedd Llwybr Pyg a throi yn ôl tua'r dechrau, gan edrych i lawr ar y llynnoedd yn awr.

Y gath yn gwrthod dod i lawr o ben y goeden o flaen y tŷ, galw ar y frigâd dân a'r rheini efo ystolion mawr yn dringo i'w nôl hi.

Roedd dringo lawr yn beryglus iawn.

Am y cartref lle codwyd ef, mae Luned Morgan yn son yn ei llyfr Dringo'r Andes.

Cerddodd y tri ohonynt yn ôl at y car ac agorodd Carol y drws cefn i'r bechgyn gael dringo i mewn.

'Pa gŵn?' meddai Meic gan geisio dringo i fyny wrth ochr ei chwaer.

Yn raddol, gwasgarodd pawb a gwthiodd Dilwyn, Rhian ac Ifan eu beiciau'n araf i ben y rhiw cyn dringo arnynt a theithio'n flinedig hyd bentref y Bont, heb ddweud gair.

Mae'n werth dringo at groes Dwynwen i dalu gwrogaeth i nawddsantes cariadon Cymru.

O ran yn unig, mi gredaf, y gall dyn ddechrau deall am y Creu; oblegid y mae'r gamfa olaf un byth bythoedd hed ei dringo a hynny am y rheswm syml ei bod yn symud ymhellach o'n cyrraedd po agosaf y meddyliwn ein bod a'n troed arni.

Cofio fel oedd ei mam yn hel ei dilladau i'r trynciau ar frys a'r tad yn clymu y ceffylau wrth y wagen a'r trap i ffoi am ei heinioes fel y dywedodd Eluned yn "Dringo'r Andes".

Effallai y caiff ran fel Robin Hood rhyw dro, a chael cyfuno ei hoffter o actio a dringo coed!

Roedd gwaith dringo at y pinacl, ond roedd yr olygfa oddi yno ar draws y pwll yn fendigedig.

Ac roedd digon o ystwythder ac ysgafnder ynddo i allu dringo i mewn i unrhyw dŷ heb i neb ei weld na'i glywed.

Yn yr Engadin, megis ym mhob un o'r cymoedd ar gymoedd mynyddig sy'n creu'r Grisiwm, mae'n hawdd ymateb i eiriau Zarathustra, 'immer weinigere steigen mit mir euf immer hohere Berge, - ich bause ein Gebirge aus immer heiligeren Bergen.' (Llai a llai sy'n dringo gyda mi i fyny mynyddoedd uwch ac uwch, - adeiladaf ucheldir o fynyddoedd sancteiddiach a sancteiddiach).

Heddiw eto, fel y gwnaethai'n gyson yn ddiweddar, roedd wedi dringo i'w hoff fangre lle y gallai gael seibiant ar ei phen ei hun.

Dringo coed yw un o bleserau Tomos Alun, ac mae o, hefyd, wedi gwirioni ar bel-droed.

Rhaid dringo tipyn eto i gyrraedd yr uchaf o'r tri llyn, Glaslyn, sy'n swatio'n glos yng nghesail copa'r Wyddfa.

Mae o wedi dringo i mewn i fwy o dai drwy fwy o ffenestri na neb yn y fro yma.

Edrychai pawb yn syn ar Douglas Bader yn dringo i'r awyr fel eos.

"Bu+m chwant rhoi'r gorau i'r gegin gawl a drefnwn yn y fan hon ond mae fy ngweithwyr yn dweud wrthyf mai'r cawl a'r bara sy'n cael eu rhannu gan y Genhadaeth yw'r unig fwyd a gaiff rhai o'r trueiniaid yno." Ar ôl iddi hi gyrraedd, yr hyn a welodd Pamela oedd anferth o ddyn a barf drwchus ganddo yn dringo i'r llwyfan i bregethu.

Yna, dringo o ddifrif dros glogwyni o gregin llosg a'r llwybr yn arwain weithiau dros wyneb y graig ei hun nes gwingo o'r coesau gan flinder.

Dringo llethr mwy creigiog ac yna'r grud sydd frenin yn ei borffor.

Doedd dim amdani ond dringo'r grisiau i'r bwyty, a chan ei bod hi bron iawn yn hanner dydd, prynodd ginio i'r tri ohonynt er gwaethaf y prisiau dychrynllyd.

Fe godes yr ysgol oedd e wedi gico bant, a dringo lan nes bo fi gyferbyn â'r corff.

Wedi dringo i ben y mynydd, yng nghanol gogoniant Cumbna, ac edrych draw i'r gorllewin mae'r orsaf niwcle ar enfawr, hyll, blêr a bygythiol yno o dan eich trwyn.

Mae cannoedd o risiau i'w dringo o'r ddinas i'r porthladd.

Nid wyf am awgrymu bod unrhyw debygrwydd rhwng dringo Everest o ran antur a rhyfyg a cherdded o Gaerfyrddin i Aberystwyth.

LIWSI: (Wrth y gynulleidfa, tra'n dringo) Dowch efo mi, wnewch chi?

Y gwanwyn nesaf bwriadai fynd i ganolfan chwaraeon i ddysgu dringo.

Gwyddai na fyddai byth yn medru dringo i lawr i'r traeth drachefn.

Er i ti geisio dringo allan, methu a wnei.

Ym Mangor penderfynodd y Frigad Dân ddefnyddio eu hysgolion i annog y cyhoedd i gyfrannu at fwcedi Pudsey a thra eu bod nhw'n dringo, roedd gweithwyr archfarchnad KwikSave yn y ddinas yn gwisgo dillad hanesyddol lliwgar i berswadio cwsmeriaid i gyfrannu ychydig o geiniogau at yr achos.

Dechreuodd ambell un redeg a chododd eu lleisiau'n uchel wrth iddyn nhw ddechrau dringo'r grisiau ar ei ôl.

Wrth iddo ddechrau dringo'r grisiau, gwyddai ei fod bron cyrraedd diogelwch, ond erbyn hyn roedd rhai o'r corachod wrth ei sodlau.

Gan wylio'r ychydig deithwyr yn dringo i mewn i bum cerbyd y trên meddyliodd David pa mor falch y buasai i orffen y trip hwn a chael eistedd o flaen tân cynnes braf gartref.

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

Cyraeddasom dref brydferth Mbale wrth odre'r mynydd tua dau o'r gloch: o hyn ymlaen gorfod dringo'r ffordd droellog i fyny i'r uchelderau.

Nid pawb a all gael addysg Gymraeg a'r ucha'n y byd yr wyt ti'n dringo mynydd addysg mae'r Gymraeg, fel ocsigen, yn mynd yn fwy ac yn fwy prin.

Tu draw iddo y dechreua'r dringo o ddifrif os am gyrraedd copa'r Wyddfa.

Roedd e'n benderfynol nad oedd ei ddamwain yn mynd i'w atal rhag parhau â'i hobi - dringo mynyddoedd.

Aeth rownd bob rhan o'r ffatri enfawr ac yr oedd hyd yn oed yn dringo i fyny'r peiriannau ac yn gofyn cwestiynnau call ac addysgiedig.

Dyna a gâi hi, bellach, yn bupur a halen gyda phob pryd bwyd, ei anturiaethau ef ar y Sara Huws, fel y byddai ef yn llanc i gyd yn gwneud plym dyff i'r criw ac yn dringo'r mastiau fel mwnci.

Profiad cynhyrfus oedd dringo i ben tūr Zigmund a chyffwrdd â'r gloch enfawr am lwc, yng nghwmni rhai o'r plant.

Mae Judith a Tim yn gorfod dringo ysgol i'r daflod i fynd i'w gwely.

Ymdrechodd y cyfeillion i'w ffrwyno a buont yn hir cyn dringo i'r cyfrwyau.

Darlunia Alun Llywelyn-Williams, yn Crwydro Brycheiniog, sut y byddai'r gyrroedd yn cyfarfod yn Llanddulas yn Nhirabad cyn dringo Mynydd Epynt, 'a hyd heddiw gellir dilyn eu trywydd, nid yn unig ar y ffyrdd glas, ond hefyd wrth enwau'r tafamdai, rai ohonynt yn ddim ond adfeilion mwy, a ddisychedai'r gwyr da, os nad eu hanifeiliaid hefyd, ar y daith, - Tafarnymynydd, ryw dair milltir o Landdulas, Tynymynydd neu'r Drovers' Arms ...

Fe fyddai hi wrth ei bodd yn gwrando arno'n ei morio hi pan oedd hi'n bwten ac yn dringo ar ei lin i erfyn am stori ond bellach gorfod gwrando hyd at syrffed yr oedd hi.

Brwydr y Sianel 1970 Llunio polisi a chyhoeddi dechrau ymgyrch. 1971 Aelodau'r Gymdeithas yn dringo mastiau ledled Cymru ac yn torri i mewn i stiwdios teledu yn Lloegr gan ddifrodi eiddo.

Yn raddol cryfhaodd ei freichiau a chyn pen dim roedd Norman yn medru dringo unwaith eto.