Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dripiau

dripiau

Fe fyddwn i yn meddwl bumgwaith drosodd a dweud Na bob tro pe byddai rhywun yn gofyn i mi fynd â chriwiau o blant pobl eraill ar dripiau ac ymweliadau.

Cofiaf dripiau diwedd y tri degau ac un yn arbennig pan aethpwyd i New Brighton.

Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.