Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drobwynt

drobwynt

'Roedd Cynhadledd y Cilgwyn yn drobwynt hanesyddol.

I Graham Henry roedd buddugoliaeth 1999 yn drobwynt pendant.

Yr hyn a wnaed oedd dewis cyfnod a oedd yn drobwynt yn ein hanes a dangos dwyster y croestynnu sy'n bod mewn unrhyw gyfnod felly.

Arweiniodd ei ddarlith ar unwaith at sefydlu'r Gynghrair Gaeleg i adfer y Wyddeleg, a bu hynny'n drobwynt.

Yr oedd yna rai â'u teyrngarwch i'r mudiad mor ddwys a dwfn fel na fedrent hystyried y mater yn oeraidd, ac yn wyneb digwyddiad fel Tryweryn, yr oedd yna wanobaith llwyr, ac angen emosiynol clir am drobwynt dramatig.

Yr oedd yr etholiad hwnnw yn drobwynt yn hanes gwleidyddiaeth Gymreig, ac ni bu etholiad wedyn heb ymgeisydd neu ymgeiswyr Plaid Cymru ar y maes.