Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drodd

drodd

Ond gwelsom eisoes i modernismo fod yn gyfrwng naturiol i ing yr ansicrwydd ynghylch ein bodolaeth mewn byd a drodd yn ddi-Greawdwr, ac yn ddi- ben.

'Rydw i yn bump ar hugain oed.' Hanner-drodd tuag ati â gwên fingam.

Yr union haneswyr hyn, a drodd eu cefnau ar yr olwg Hen-Destamentyddol ar hanes, a ddechreuodd ymosod ar y chwedlau drwy ba rai yr oedd historiwyr gwahanol genhedloedd wedi cuddio'u hanwybodaeth am eu dechreuadau.

Bu'r flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbi'r Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.

Dros amser, fe drodd dyneiddiaeth o fod yn fudiad a nodweddid yn bennaf gan barch at ddysg yr Hen Fyd, mudiad a wreiddid yn arbennig yn y diwylliant Lladin clasurol, i fod yn fudiad a oedd yn hybu'r ieithoedd brodorol, ac, i raddau llai, ddiwylliant brodorol yn ogystal.

Na, y cyhoeddiadau ar uchel seinydd yr orsaf a drôdd y lle yn uffern i mi.

Ciliodd o'r caeau a'r meysydd pan drodd amaethyddiaeth at beiriannau; cafodd ei ddisodli oddi ar y ffyrdd gan y modur; a diflannodd oddi ar bonciau'r chwareli pan ddaeth y 'loco' i gymryd ei le.

Cafodd dipyn o drafferth efo drws y garej yn gwrthod cau - roedd o wedi sôn droeon wrth y giaffar ac wrth Mrs Rowlands am gyflwr y clo yna - ac felly roedd hi bron yn bum munud ar hugain i wyth pan drodd o'r gornel i mewn i stad Llys y Gwynt ac roedd Elfed wedi gwylltio braidd efo Elsie Williams a'i chriw.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Mi drodd hyd yn oed y gath ei hunan ei phen hanner ffordd ar draws ei chefn i syllu'n edmygus ar ei chynffon.

Geiriau arwyddocaol dros ben yn y cyswllt hwn yw galwad Duw i Abraham pan drodd ei gefn ar ei deulu yn Haran:

Y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel oedd cyfnod ei greu mwyaf, blynyddoedd o newidiadau hanesyddol aruthrol pan drodd mwy nag un arlunydd ei gefn ar ganolfannau artistig ac ymgolli mewn tirlun arbennig.

Gyrfa a gychwynnodd pan drodd glaslanc un ar hugain allan ryw ben bore, 'lawer dydd yn ôl' bellach, gobaith yn fflachio yn ei Iygaid, tân yn llosgi yn ei fol a thail cefn gwlad Môn yn ffres ar ei 'sgidia' am ei gyfweliad cynta' yn Ysgol Ramadeg Newton le Willows, sefydliad oedd yn drewi gan draddodiad yn Lloegar bell!

Wedi ei chanmol i'r entrychion gan y beirniaid a'i gwelai yn dorriad gwawr newydd y nofel Gymraeg cafodd darllenwyr cyffredin a drodd mor awchus tuag ati eu hunain mewn cors o ddryswch.

Ond er iddynt dreulio dwyawr digon anghysurus yn swatio a gwylio yng nghefn y ffynnon ni welsant undyn byw a thri digon siomedig a drodd eu hwynebau tuag adref fel y teimlent y dafnau cyntaf o law yn disgyn ar eu talcennau.

Er ei bod yn mwynhau'r cabaret, fe drodd at actio ychydig flynyddoedd yn ôl - yn gynta' fel ecstra mewn rhaglenni fel District Nurse ac hyd yn oed Pobol y Cwm.

Bur flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbir Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.

Ond credwch neu beidio daeth yr haul allan tra'r oeddent yn cerdded i fyny Tryfan, ond fe drodd yn genllysg wedyn dros y Glyderau!