Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

droedio

droedio

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Ond er 'gyrru'r eryr i Gymru', ni chafodd y bardd ddychwelyd o Facedonia i droedio eto Barlwr y Glyn nac 'ardal hyfryd Rhyd Lefrith' yn Ninmael, ger ei gartref.

Cymerir hynny'n esgus dros geidwadaeth ronc yn amlach na pheidio, ond mae'n amhosib peidio a bod yn ymwybodol o'r blaen ellyn y mae'n rhaid ei droedio.

Mae am i ni droedio 'mlaen yn hyderus, gan ymddiried ynddo Ef.

Golyga hyn fod y cwmni, a sefydlwyd gan Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan Edwards nôl yn 1969, yn barod i droedio i'r Mileniwm newydd gyda chryn dipyn o hyder ac yn gyfrifol am hyd yn oed fwy o grwpiau ac artistiaid.

Yn yr Haf, byddai yn arwain grwpiau i droedio ar hyd llwybrau cyhoeddus i lefydd hanesyddol o amgylch y dre.

roedd y car wedi gwneud hyn o 'r blaen fwy nag unwaith ac wedi ailgychwyn ar ôl sbel fach ac ychydig o droedio go drwm ar y sbardun.