Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

droseddwyr

droseddwyr

Edrychwch o'ch cwmpas a be welwch chi ond bagad o droseddwyr.

O'r cychwyn bu'n freuddwyd ganddo i sefydlu cartref lloches i droseddwyr.

Iddyn nhw, ffordd o ddial ar droseddwyr yw eu carcharu a'u cadw dan glo lle na allant amharu ar weddill cymdeithas.

Gorfod delio â mân droseddwyr fel meddwon Nos Galan a'i hysgogodd i wneud cais i'w drosglwyddo i'r CID yn y lle cyntaf, ond dyma fe ar y bore gwyn hwn yn gorfod gwrando ar ragor o'u hanturiaethau.

Deuai i gyffyrddiad â phob math o droseddwyr ac ni ellid cael neb gwell i drafod eu hachosion ac i gynorthwyo'r llysoedd i wneud cyfiawnder â hwy.

Yn aml, dydi llwybr y diwygwyr ddim yn un hawdd wrth iddyn nhw gael eu cyhuddo o fod yn feddal, gwangalon a rhy oddefol o droseddwyr.

Ond yn ddieithriad hefyd, trwy gymorth Duw, y mae'r sant yn ei drechu, ac yn ei ddwyn i edifeirwch am ei gamwedd, ac wedyn fe ddyry Arthur dir i'r eglwys neu fe gadarnha ei hawliau, megis i roi seintwar i droseddwyr.