Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drosti

drosti

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

Rhaid oedd i Enlli agor ei dillad a byseddodd y blismones hi drosti yn dra thrwsgl.

Daeth rhyw nerth rhyfedd drosti.

Pan welodd ddau rwystr metel uwch ei ben sylweddolodd pe bai ef yn ymestyn ei gorff rhyngddyn nhw buasai'n gallu bod yn `bont' y gallai pobl gropian drosti i ddiogelwch.

Rhaid iddi wneud ymdrech drosti ei hun.

Aeth yn oer drosti.

Eu beirniadaeth arni yw ei bod yn rhy bendant a bod y dystiolaeth drosti yn fregus.

Doedd o erioed wedi gweld Cli%o cyn hyn gan fod Seimon yn byw yn Rhiwlas, heb fod ymhell o'r ysgol, ond roedd yn bur debyg i'r disgrifiad a gawsai ohoni hefyd; yn cyrraedd bron at ben-lin Seimon, côt wen lefn, gyda chlytiau o frown a du drosti, pwt bach o gynffon a chlustiau pigog, ond bod un o'r pigau'n troi at i lawr.

Rhoes gyfeiriad i'w ramantiaeth a chyfiawnhad drosti.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Ac nid safbwynt yn unig, ond traethiad neu faentumiad o hawl, a'r hawl oedd hawl y genedl i ffurfio ei hagwedd a'i hymateb a'i pholisi ei hun tuag at y rhyfel,--yr hawl, mewn byr eiriau, i benderfynu drosti ei hun a fynnai hi ymyrryd yn y rhyfel ai peidio.

Er enghraifft, pe bai gwraig feichiog yn neidio drosti credid y gallai'r llinyn bogel dagu'r baban.

Mae'r gyrrwr yn tosturio drosti ar y fath noson ac yn cynnig pas iddi - hithau'n derbyn gan eistedd yn y sedd ôl a dweud dim ond cyfeiriad pen ei thaith.

Ymlaciodd Morfudd rhyw fymryn a theimlodd gryndod yn tindroi drosti.

Ac wylo amdani a galaru drosti hi y mae brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuont fyw yn foethus gyda hi, pan welsant fwg ei llosgiad hi.

Gafaelodd Ifor yn ei llaw i'w thynnu yn ôl i'r presennol, a phwyso drosti.

A chydnabyddwn ein bod wedi ein gosod gennyt ar y blaned hon nid i'w hanrheithio a'i difetha ond i ddwyn cyfrifoldeb drosti o dan dy lywodraeth Di, Arglwydd y cread.

Menna fu'n actio ei rhan drosti, i lanw'r bwlch.

Beth a ddaethai drosti?

Dim awydd - lawer llai pan sylweddolais fod Mem wedi creu ambell ergyd ac yn dibynnu arnaf i'w saethu drosti.

Pan ddaeth ati ei hun gwelai belen wen gwallt ac wyneb pryderus ei thad yn plygu drosti ac yn dal ei phen yn ei ddwylo a chlywai ei lais o bell: 'Fy seren, o fy seren!

I ddynion tebyg iddo ef, yn enwedig pan fyddai dadl economaidd iwtilitaraidd gref drosti, a'r cof am derfysgoedd diweddar yn rhoi min ac awch arni, roedd addysg yn anad dim yn fodd i gael dylanwad ar y dosbarth gweithiol.

Dywedir i Gadog fod yn berchen ar ddarn o dir ar lan yr afon Liffey, yr afon y gorwedd Brên drosti er mwyn ffurfio pont i'w wŷr.

Ac mae'r mynyddoedd, sydd drosti bron i gyd, yn weddol ddramatig, medda nhw, hynny ydi os digwyddwch chi eu gweld nhw.

Gosodid yr ysgub gan amlaf ar draws y drws i'r ty a'r pâr ifanc wedyn yn neidio drosti heb ei chyffwrdd.

Bod pob cainc amheus y mynnir ei harfer i'w difreinio, megis y gainc heb doriad pendant i'w rhan gyntaf, a phob cainc y cytunir na ddwg traddodiad y gelfyddyd eirda drosti.

pan oedd o 'n agosau at bont trillwyn a newydd newid gêr i fynd yn araf drosti oherwydd ei chulni, petrusodd y peiriant unwaith neu ddwy ac yna gwrthododd danio o gwbl.

i ofalu eu bod yn diogelu'r llinell fain, frau, a gwan i'r golwg, sy'n gwahanu amddiffyniad oddi wrth drais, a'u rhybuddio mai gwladgarwyr ac arwyr ydynt tra byddont ar y naill ochr i'r llinell ond eu bod yn troi'n llofruddion unwaith yr ânt drosti i'r ochr arall ?

Dyna i chwi lwybr ar ddannedd y graig sydd dros y Grib Goch, mae rhai yn rhedeg drosti, coeliwch neu beidio!

'Iddi gael gweld drosti ei hunan beth yw gorfod byw mewn caets brwnt,' ategodd Jini.

Roedd hi mor ffeind wrthym ni a doedd ganddom ni'r un ffordd arall o ddangos ein diolch, ac os oedd hi'n hoffi cael cosi ei choesau, wel, iawn i ni wneud hynny drosti.

Duw a wyr, Mair, fe wnest ti gymaint drosti ag oedd yn ddynol bosibl - mwy na hynny bron, 'nghariad i." "Ond doeddwn i ddim yno pan oedd arni fy ngwir angen i..." "Os oedd hi wedi penderfynu erbyn hynny, yna doedd mo d'angen di na neb arall arni pan ddaeth yr amser.

Yr unig iaith mae genna'i ddiddordeb mewn ymgyrchu drosti ydi iaith sydd yn fyw o fewn cymunedau.

Gwaethygodd y storm, ysgubodd moryn mawr drosti a golchi'r ddau gwch achub i'r môr a malu'r olwyn llywio.

"Reit Llefelys, mae popeth yn barod, y twll, dysglaid anferth o fedd a sidan tenau - a drud hefyd os caf i ddweud - drosti.

Ni soniais wrth neb fy mod wedi derbyn cyffyrddiad y Crist byw drosti.

Pe bai merch ddi-briod yn neidio drosti, roedd perygl iddi ddod yn feichiog cyn priodi.

Diolch bod 'na gymaint o rai yn dysgu ein hiaith, yn cael blas ar ei dysgu ac mor frwd drosti.