Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drosto

drosto

'Ydi hi'n bell i dŷ Nain?' gofynnodd Owain wrth iddi blygu drosto i'w gau'n ddiogel yn ei sedd, a pharodd hynny i'w fam wneud un arall o'i phenderfyniadau sydyn.

Pwysodd a'i gefn yn erbyn y drws a gadwodd i'r llonyddwch lifo drosto.

Yr oeddwn innau yn teimlo drosto, am y credwn nad ydoedd yn ddi-Gymraeg, gan na phenodid neb - doedd bosibl!

Sut gall cyfrifiadur ddysgu drosto ei hun?

Llewelyn Williams o Goleg y Trwyn Pres ar y Ficer Prichard), a chymaint o wir hanes yr amser fu sydd i'w gael mewn cymdeithas fel hon wrth wrandaw ffrwyth ymchwiliadau rhai eraill; a phan feddylier fod tro pawb ohonom i chwilio drosto'i hun, ni raid petruso dywedyd fod dibenion gorau'r gymdeithas yn cael eu hateb yn llwyr".

Deffrôi o'i weledigaeth yn nynfder nos a'i gorff yn chwys oer drosto.

Ond profiad pur chwerw oedd gweld y polisi y dadleuem drosto yn cael ei weithredu yn Chwe Sir Gogledd Iwerddon.

Mae Abad Llantarnam yn barod i ymladd mewn brwydr drosto hyd yn oed.

Y mae'r gŵr y cymeraist fendith drosto mor gyfan â'r gwrthrych yn dy law.

Un o nodweddion John Griffith fel gohebydd oedd ei awydd i fynd i lefydd drosto'i hun i weld â'i lygaid ei hun.

Codais y dillad yn ôl drosto.

Mewn gair, yr oedd gyda'r perffeithiaf o blant dynion, a golyga hynny lawer iawn pan feddylir am amrywiaeth y natur ddynol, a phob peth y mae'r corff a'r meddwl a'r ysbryd yn sefyll drosto.

Yn wir, gofynnodd un o'r pwyllgor i Waldo wedyn pam yr oedd wedi ymadael â Chas-mael ar ôl y cwbl yr oeddent hwy wedi'i wneud drosto.

Dod ymlaen yn y byd oedd eu cymhelliad cryfaf: pawb drosto'i hun a'r Ymerodraeth Brydeinig dros bawb oedd piau hi.

Gobeithiaf y bydd yn damaid bach i aros pryd ac yn ddigon i godi blys ar y darllenydd i fynd ati i chwilota drosto'i hun yn nechrau'r haf.

Oedd, roedd Douglas yn siwr y byddai Stan yn gwneud ei orau drosto.

Sylfaen yr ymwybyddiaeth fodern, meddai, oedd ymdeimlad o annibyniaeth ar allanolion ynghyd â ffydd yng ngallu'r dyn unigol i ateb cwestiynau dyrys bywyd drosto'i hun.

I allu ganeud hynny'n effeithiol rhaid oedd sefydlu arbenigrwydd ei berthynas a'r cylchgrawn a chryfhau ei reolaeth drosto.

Ac yr oedd Alphonse yn friwiau ac yn waed drosto, gyda llaid yn glynu wrtho.

A'r ferch yn byw mewn pentref pell fe sgrifennai John ati bob pythefnos, neu'n gywirach byddai'n cael gan rywun arall wneuthur felly drosto, gan na fedrai na sgrifennu na darllen.

Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.

Roedd yn waed drosto a'i wddw wedi'i dorri â chyllell.

Bron yn ddiarwybod iddo'i hun yr oedd yn hebrwng y ferch adref, a phan sylweddolodd beth yr oedd yn ei wneud profodd don o letchwithdod yn dod drosto, yn cael ei dilyn gan don gryfach o hunanbwysigrwydd.

Yng Nghymru, er enrhaifft, fe all yr aelod Llafur Ewropeaidd, Joe Wilson ganolbwyntio'i ymgyrch ar y sedd ogleddol y bu'n ei chynrychioli ers degawd, ond fydd yna neb yn pleidleisio drosto ef yn bersonol y mis nesaf.

Mae gen i dasg i'w gwneud drosto, ac mae'n rhaid imi'i gwneud hi ar unwaith, cyn iddi fod yn rhy hwyr.' 'Rhy hwyr?' meddai Non.

Nid oes undim sy'n fwy ysgogol nag achos da i frwydro drosto.

Ie, dyna chi, siocled yw'r testun mae Meira yn myfyrio drosto y mis hwn...

Dymunai i'r ddaear ei lyncu a'r môr lifo drosto a'i foddi.

Aeth i lawr y grisiau meddw i'r salŵn - i weld drosto'i hun am y tro cyntaf alanastra salwch mor ar ferch ieuanc.

'Roedd cleisiau melynion wedi torri allan drosto, a chnewyllyn pob clais wedi duo.

Ella fod gan Mam biti drosto fo ond fedra i yn fy myw gymryd ato fo.

Gwyddai eu bod ar ddyfod wrth y cryd oer a âi drosto, ac wedi eu dyfod collai bob nerth a syllai arnynt â'i lygaid, fel aderyn wedi ei lygad-dynnu gan drem y sarff.

'Mae'n neis gweld Cymry mâs yma a maen nhw'n sgrechian drosto i a mae lot wedi dod i ddilyn y tîm.

Ni cheisiodd THP-W ateb y cwestiwn ac erbyn hyn efallai na all neb ohonom ei ateb drosto, ond gallwn roi cynnig arni.

Er waetha'r ffaith fod y diwydiant hysbysebu yn cwyno dan effeithiau'r dirwasgiad byd eang, nid ydw i, yn bersonol, am golli cwsg drosto.

Yr abad oedd yn gofalu neu yn llywodraethu drosto.

Cafodd ei bigo drosto ganddyn nhw hefyd.

Ar ochr arall y stryd dyma fe'n gweld Dr Williams, a'r awydd yn dod drosto i roi eithaf crasfa iddo.

Ni allai'r brecwast orffen yn ddigon cyflym, a'r funud y symudodd yr ymwelydd o'r bwrdd rhuthrodd fy mam i fyny i'w ystafell a gweld bod y lliain glân eto yn llinellau duon drosto.

Gan fy mod wedi bod ar ei ben yr haf cynt, siom oedd gweld gorchudd o gwmwl drosto o hyd.

Ar daith yr ydym ni ar hyd llwybr na thramwywn drosto eilwaith.

Mae'r gwastraff yn cael ei bentyrru'n uchel, a phridd yn cael ei daenu drosto o bryd i'w gilydd.

Mae Dinogad yn gofyn am, gymorth y Carael i ddod o hyd i'r Brenin Dion." "Mae'n hawdd adrodd stori a dweud ei bod yn wir," medd Afaon wrthyt, "ond mae'n rhaid i'r gwrandawr bwyso a mesur y geiriau drosto'i hun.

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.

Ond "cread" yw'r bydysawd i Bantycelyn a chread y mae'r Gwaredwr yn llywodraethu drosto.

Garej PDH ydi hwn - Pawb Drosto'i Hun.

Yn wir roedd o mor denau roeddech chi'n gallu cyfrif ei asennau o ac er ei bod hi wedi tantro gymaint yn erbyn ei gael o, roedd gan Mam biti drosto.

Wrth ddisgrifio cyflwr ffermwyr tlawd yn yr Affrig neu Asia, wedi i flynyddoedd o lafur caled gael eu difetha trwy fympwy natur nad oes ganddynt ddim rheolaeth o gwbl drosto, gall rhestrau o ffigurau a disgrifiad byw gan un profiadol yn y maes fod o gymorth.

Ond dihangfa oedd hyn oll i Ynot; allan y nos neu beidio, adre'n hwyr neu beidio, rhaid oedd dychwelyd bob nos i gysgu hefo Arabrab, neu o leiaf i orwedd yn effro tra chwythai a chwyrnai ei hanadl wnionllyd drosto.

Tynnodd ef o'i logell a gweiddi ar y lleill, 'Fe ddaeth yr amser i brofi anrheg y ddraig.' Cymerodd ychydig o'r llwch ohono a'i daflu drosto'i hun a'i ferlyn.

Teimlai yn wirioneddol ddrwg drosto.

Yn y padhâ (a ddeilliai o pdh) y rhyddhawyd y sawl a fu'n gaeth trwy i rywun arall dalu ffi drosto: Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai ...

Mae'r llyfr hwn yn drysorfa o hanes eglwys, ac yn llwyr haeddu y gwarchod gofalus fu drosto ar hyd y blynyddoedd.

Syrthiodd o'i blaen hi, ac fe aeth hi drosto.

Daethai o ganol nythaid o chwech o blant lle'r oedd pawb drosto'i hun a thros bawb arall yn un lobscows o egwyddor meddai hi.

Gwelai Geraint ben ac ysgwyddau tywyll yn ymddangos o'r cysgodion, ac aeth chwys oer drosto.

Pawb drosto'i hun, dyna'r arwyddair.