Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drostynt

drostynt

Y Dywysoges Namotto a roes y syniad iddo ar amser cinio un diwrnod pan oeddynt yn mwynhau pryd o wynwyn wedi'u stwffio a chaws llyffant a dail criafol mewn mel gyda saws o neithdar bysedd y cŵn drostynt.

Aros mae'r mynyddau mawr, rhuo drostynt mae y gwynt..." "Ond bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn," parhaodd Snowt.

Edrychodd rhai ar yr enwau a welwyd ar restr aelodau'r byrddau rheoli a oedd yn mynd i drefnu a chynnal y diwydiant drostynt hwy - y glowyr.

Y peth sy'n llorio pobl feilchion yw sylweddoli gydag angerdd fod Iesu Grist wedi gwneud rhywbeth drostynt hwy'n bersonol.

Ymlaen wedyn trwy filltiroedd sgwâr o gaeau siwgwr a'r dail gwyrdd yn disgleirio efo galwyni o ddŵr yn cael eu lluchio drostynt trwy bibau anferth o Lyn Victoria.

Mae eu hawydd i ddarganfod pethau drostynt eu hunain wedi eu harwain i beryglon mawr - ond weithiau bu'n gyfrwng datrys dirgelwch hefyd.

Os na theimla ei fod ef ei hun yn "oedi' nychlyd ar lan yr afon ddofn, gall feddwl yn dirion a gweddigar am rywrai sydd, a chanu drostynt - canu dros y rhai sy'n methu canu hwyrach - ac eiriol ar eu rhan wrth ganu.....

Sawl storm dorrodd drostynt tybed?

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Ond does gan y nofelwyr mo'u gild crefft yn mynd yn ol i'r Oesoedd Canol, na'r un Ymennydd Mawr i fod yn apolegydd drostynt.

Gellir hefyd goginio stribedi betys, efo llyfiad o olew drostynt, yn y popty; neu eu crasu mewn llefrith.

Ond ar lin ffrae ni cherddai ll'goden goch drostynt, oherwydd roedd Begw'n dallt bod gwyn ei byd yng nghwmni Rondol, ac fe wyddai derfyn ei therfyna.

i'r myfyrwyr ddysgu drostynt eu hunain, ac o'r safbwynt dysgu dwyieithog rhaid anelu'r wers at allu ieithyddol y mwyafrif.

Derbyniwn bedwar neu bump o enwau cleifion i weddi%o drostynt bob dydd am fis.

Dan gynllun felly nid oedd modd sicrhau nad oedd rhai cefnogwyr wedi arwyddo ddwywaith, ac eraill wedi arwyddo drostynt eu hunain yn ogystal â thros aelodau eraill o'r teulu.

Prin oedd y milwyr hynny a wyddai lawer o hanes y Cwrdiaid, ac, eto, roedden nhw'n barod i fentro'u bywydau drostynt.

Gan nad oedd ganddo ef na Mary drwydded yrru, cytunodd Fred i yrru'r cerbyd drostynt a phrynodd Ali fen Bedford at y gwaith.

Pe bai rhywun yn cyfieithu llyfrau plant Selina Chonz o'r Romaneg i'r Gymraeg, fel y gwnaed i lawer iaith arall, fe welai'r Cymry gymeriad y tai hyn drostynt ei hunain yn narluniau Alois Carigiet o gartrefi Uorsin a'i ffrindiau.

Anialwch o lwch a chreigiau yw llethrau'r mynydd, heb ddim yn tyfu arnynt na dim yn symud drostynt, ddim hyd yn oed fân greaduriaid ac ymlusgiaid.