Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drothwy

drothwy

Ac i'r glowyr, oedd wedi brwydro mor hir ac mor ddygn yn erbyn eu meistri, yr oeddynt ar drothwy'r fuddugoliaeth fawr.

Dyna neges y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg (PDAG) i'r Ysgrifennydd Gwladol ar drothwy'r flwyddyn newydd.

Ar drothwy prifwyl arall DG LLOYD

Yn gyntaf, na fu wedi marw Elisabeth hyd at drothwy'r ugeinfed ganrif na chais na bwriad gan neb o bwys yng Nghymru i ddatod dim ar y cwlwm a unodd Gymru wrth Loegr na gwrthwynebiad o unrhyw gyfri i'r egwyddor o deyrnas gyfunol a diwahân.

Felly, pan sylweddolodd yn hwyr un noson iddo adael ei waled yn llawn o arian ar ben postyn llidiart buarth tyddyn anghysbell yng nghyffiniau Llynnoedd Teifi ar noson o eira ar drothwy'r Nadolig doedd ganddo fe ddim dewis.

Chwarae teg i Tomos† Wel dyma ni unwaith eto ar drothwy'r Nadolig, tymor ewyllys a newyddion da.

Y byd ar drothwy rhyfel ond Kennedy yn perswadio Rwsia i droi'n ôl.

Ar drothwy'r grisiau, sylweddolodd Gethin unwaith eto pa mor bell o'r ddaear yr oeddynt, a dechrau siglo'n benysgafn.

Ar ôl amddiffyn teitl pwysau uwch-ganol y WBO am yr wythfed gwaith nos Sadwrn, fe allai Joe Calzaghe fod ar drothwy'i ornest fwya erioed - gyda Roy Jones Junior, pencampwr byd y pwysau is-drwm.

Ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeunaw oed ddydd Sul cawsom flas o'r hyn sydd i ddod iddo ef - ac i ninnau.

Daliodd rhai o'r Lolardiaid, megis y Waldensiaid, i gwrdd yn y dirgel a darllen eu Beiblau hyd at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd.

Cyhoeddir yr apêl ar adeg pan ddylsen ni i gyd fod mewn hwyliau rhamantus - ar drothwy Dydd Santes Dwynwen, a bydd Dydd Sant Ffolant yn dilyn ymhen ychydig.

Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.

Gwyddom yn dda am gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a'r wythnos hon, cafwyd dychwelyd i Gynulliad Gogledd Iwerddon ar drothwy'r Dyrchafael.

Fodd bynnag, mae'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg a'n cymunedau ar drothwy'r Mileniwm nesaf yn un dwfn yn sgil gostyngiad parhaus yng nghanran siaradwyr Cymraeg ein cymunedau.

Er mai cantorion ar drothwy eu gyrfa yw cystadleuwyr Canwr y Byd Caerdydd, nid cantorion di-brofiad mohonynt o bell ffordd.

Y gore y medraf i ei wneud y bore yma fydd sylwi ar rai o nodweddion y datblygiadau a enwais, ac yn sgîl hynny, cynnig rhai sylwadau am ragolygon Cymru ar drothwy'r ganrif newydd.

Roeddem ar drothwy tymor y glaw, pan fydd llwythau'r wlad yn cynnal defodau i ddenu'r cawodydd a fydd yn rhoi cynhaeaf da.

Canodd alaw gyfarwydd Donizetti Una furtiva lagrima - nid o reidrwydd yn syniad rhy dda gan ei bod yn hoff gân cynifer o denoriaid enwog - yn felys a chynhesodd y dorf ar drothwy'r egwyl gydag O figli, o figli miei o Macbeth Verdi.

Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.

vn gweld arwyddocâd mewn cyhoeddi canlyniadau ffafriol yr wythnos hon, a'r ffaith fod y llywodraeth ar drothwy cychwyn eu hadolygiad o'r diwydiant niwcliar.

Y dasg yn y flwyddyn i ddod yw ymateb i sialensau aml-ochrog technoleg ddigidol ac arlein, cystadleuaeth ddwys, y Cynulliad Cenedlaethol, a'r pwyso a mesur cenedlaethol iach ar drothwy'r mileniwm.

Mae angen mwy na hynny mewn trafodaeth drwyadl a chytbwys ar drothwy rhyfel.

Diweddir y rhaglen ar drothwy'r Rhyfel Mawr, sef canlyniad anochel y gwrthdaro hwn rhwng yr hen drefn a'r drefn newydd.